Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban (Saesneg: Scottish national football team) yn cynrychioli Yr Alban yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban (Saesneg: Scottish Football Association) (SFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad.
Mae'r SFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
---|---|---|---|
Hyfforddwr | Gordon Strachan | ||
Is-hyfforddwr | Mark McGhee Stuart McCall | ||
Mwyaf o Gapiau | Kenny Dalglish (102) | ||
Prif sgoriwr | Kenny Dalglish (30) Denis Law (30) | ||
Cod FIFA | SCO | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Yr Alban 0–0 Lloegr (Partick, Yr Alban; 30 Tachwedd 1872) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Yr Alban 11–0 Iwerddon (Glasgow, Yr Alban; 23 Chwefror 1901) | |||
Colled fwyaf | |||
Wrwgwái 7–0 Yr Alban (Basel, Y Swistir; 19 Mehefin 1954) | |||
Cwpan FIFA y Byd | |||
Ymddangosiadau | 8 (Cyntaf yn 1954) | ||
Pencampwriaeth UEFA Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1992) | ||
Canlyniad gorau | 8 olaf, 1992 |
Yr Alban a Lloegr ydi'r ddau dîm hynnaf yn y byd, gyda'r ddwy wlad yn cwrdd yn y gêm bêl-droed rhyngwladol gyntaf ym 1872. Mae'r Alban wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar wyth achlysur ac ym Mhencampwriaethau Ewrop ddwywaith.
Kenny Dalglish sydd â'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros Yr Alban ar ôl chwarae 102 o weithiau rhwng 1971 a 1986. Sgoriodd Dalglish 30 o goliau dros ei wlad ac mae'n rhannu'r record fel prif sgoriwr Yr Alban gyda Denis Law.
Yr Alban a Lloegr yw'r timau cenedlaethol hynnaf yn y byd gyda'r ddwy wlad yn wynebu eu gilydd mewn gêm ddi-sgôr yn Partick, Yr Alban ar 30 Tachwedd 1872. Roedd yr unarddeg chwaraewr gynrychiolodd Yr Alban yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn chwarae i glwb amatur Queen's Park o Glasgow. Dros y blynyddoedd nesaf chwaraewyd gemau yn erbyn Cymru - y cyntaf ym 1876 ac Iwerddon - y cyntaf ym 1884 fel rhan o Bencampwriaeth Prydain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.