Uefa

Yr Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropaidd neu UEFA (Saesneg: Union of European Football Associations, Ffrangeg Union des associations Européennes de football‎) ydi'r corff llywodraethol ar gyfer pêl-droed yn Ewrop er fod sawl aelod â thiriogaethau sy'n rhanol neu'n llwyr ar gyfandir Affrica ac Asia.

Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn corff llywodraethol y byd pêl-droed, FIFA, ac mae 54 o gymdeithasau pêl-droed yn aelodau.

UEFA
Uefa
Uefa
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, ffederasiwn pêl-droed, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 Mehefin 1954 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed Edit this on Wikidata
PencadlysNyon Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Swistir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.uefa.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae UEFA yn cynrychioli cymdeithasau pêl-droed cenedlaethol Ewrop, yn rhedeg cystadlaethau rhyngwladol a chystadlaethau clwb gan gynnwys Pencampwriaeth UEFA Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cynghrair Europa UEFA a Super Cup UEFA. Mae UEFA yn rheoli'r arian gwobr, y rheolau, a'r hawliau darlledu ar gyfer y cystadlaethau hynny.

Lleolwyd pencadlys cyntaf UEFA ym Mharis cyn iddynt symud i Bern ym 1959 ond ym 1995 symudodd UEFA ei bencadlys i dref Nyon yng ngorllewin y Swistir. Michel Platini ydi'r llywydd presennol.

Hanes

Ffurfiwyd UEFA ar 15 Mehefin 1954 mewn cyfarfod yn Basel, y Swistir yn dilyn trafodaethau rhwng Cymdeithasau pêl-droed Yr Eidal, Ffrainc a Gwlad Belg gyda 31 o gymdeithasau yn cytuno i uno o dan orychwyliaeth y corff newydd.

Aelodau

Mae 54 aelod yn UEFA gyda sawl gwlad trawsgyfandirol yn dewis bod yn rhan o UEFA yn hytrach na Chonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC). Y gwledydd hyn yw Armenia, Aserbaijan, Casachstan, Cyprus, Georgia a Rwsia.

Mae Israel wedi bod yn aelodau UEFA ers 1994 ar ôl cael eu diarddel o'r AFC ym 1974. Mae Casachstan hefyd yn gyn-aelodau o'r AFC.

Cyn-aelodau

  • Uefa  Undeb Pêl-droed Saarland (1954–1956)
  • Uefa  Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (1954-1990)
  • Uefa  Ffederasiwn Pêl-droed yr Undeb Sofietaidd (1954-1991) daeth yn Undeb Pêl-droed Rwsia ym 1992 gyda'r 14 cyn Weeriniaeth Sofietaidd yn creu eu cymdeithasau eu hunain gan ddod yn aelodau unigol o FIFA ac UEFA neu'r AFC.
  • Uefa  Cymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia (1954–1992) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro ym 1992. Daeth Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Macedonia a Slofenia yn annibynnol a chreu eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain.
  • Uefa  Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro (1992–2006) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia yn 2006. Creodd Montenegro, oedd wedi sicrhau annibyniaeth, ei cymdeithas bêl-droed ei hun.

Pencampwyr presennol

Pencampwriaeth Pencampwyr Cyst. nesaf
Pencampwriaeth UEFA Ewrop Uefa  Sbaen 2016 (Meh-Gorff)
Pencampwriaeth dan21 UEFA Ewrop Uefa  Sweden 2017 (Mehefin)
Pencampwriaeth dan19 UEFA Ewrop Uefa  Sbaen 2016 (Gorffennaf)
Pencampwriaeth dan17 UEFA Ewrop Uefa  Ffrainc 2016 (Mai)
Pencampwriaeth Merched UEFA Uefa  Yr Almaen 2017 (Gorff–Awst)
Pencampwriaeth Merched dan19 UEFA Ewrop Uefa  Yr Iseldiroedd 2015 (Gorffennaf)
Pencampwriaeth Merched dan17 UEFA Ewrop Uefa  Sbaen 2016 (Meh–Gorff)
Cynghrair y Pencampwyr UEFA Uefa  Barcelona 2015–16
Cynghrair Europa UEFA Uefa  Sevilla 2015-16
Super Cup UEFA Uefa  Real Madrid 2015 (Awst)
Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA Uefa  FFC Frankfurt 2015-16
Cwpan Futsal UEFA Uefa  Kairat Almaty 2015-16
Pencampwriaeth Futsal UEFA Uefa  Yr Eidal 2016 (Chwefror)
Cwpan Rhanbarthau UEFA Uefa  Veneto 2015 (Meh–Gorff)
Cynghrair Ieuenctid UEFA Uefa  Chelsea 2015–16

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Uefa HanesUefa AelodauUefa Cyn-aelodauUefa Pencampwyr presennolUefa CyfeiriadauUefa Dolenni allanolUefaAffricaAsiaEwropFIFAFfrangegPêl-droedSaesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

JSTORGwyddoniaethYr ArctigLafa1977CaethwasiaethFfuglen llawn cyffroWoyzeck (drama)I Will, i Will... For NowPriodas14 GorffennafHinsawddSisiliCastlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonThere's No Business Like Show BusinessSodiwmClaudio MonteverdiGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol1915ShooterFfilm bornograffigTŷ pârBrìghdeThe Good GirlDinasoedd CymruY Derwyddon (band)MwstardPorth YchainYnysoedd MarshallFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droedDarlithydd2005Pengwin1950TunYr AmerigCymryJac y doCœur fidèleTeisen siocledDillwyn, VirginiaY MedelwrSamarcandPentocsiffylinBrexitMacOSThe New York Times69 (safle rhyw)Louis PasteurCaerloywRwsegDuwSefydliad Confucius1997MichelangeloXXXY (ffilm)MordiroGwlad PwylAdolygiad llenyddolDafydd IwanDiwydiantWashingtonGwilym BrewysSteffan CennyddRobert CroftStygianAlldafliadDurlifLost and DeliriousNever Mind the BuzzcocksTwrciApat Dapat, Dapat ApatThe Mayor of CasterbridgeSam Worthington🡆 More