Cwpan y Byd FIFA, sydd yn cael ei hadnabod fel Cwpan y Byd, yw prif gystadleuaeth rhyngwladol y byd pêl-droed i ddynion.
Rheolir y gystadleuaeth gan Fédération Internationale de Football Association (FIFA), corff llywodraethol y byd pêl-droed ac fe'i cynhelir bob pedair blynedd ers y gystadleuaeth gyntaf ym 1930 heblaw am 1942 a 1946 pan gafodd y bencampwriaeth ei gohirio oherwydd Yr Ail Ryfel Byd.
Enghraifft o'r canlynol | cystadleuaeth pêl-droed i dimau cenedlaethol, rhyngwladol, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | pencampwriaeth y byd, cystadleuaeth bêl-droed |
Label brodorol | FIFA World Cup |
Dechrau/Sefydlu | 1930 |
Enw brodorol | FIFA World Cup |
Gwefan | https://www.fifa.com/tournaments/mens/worldcup |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae 17 o wledydd gwahanol wedi cynnal Cwpan y Byd gyda'r Almaen Brasil, Yr Eidal, Ffrainc a Mecsico wedi cynnal y gystadleuaeth ar ddau achlysur tra bod Yr Ariannin, Chile, De Affrica, Lloegr, Rwsia, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Unol Daleithiau America ac Wrwgwai wedi cynnal y gystadleuaeth unwaith a chynhaliodd De Corea a Siapan y gystadleuaeth ar y cyd.
Mae wyth o wledydd gwahanol wedi ennill y bencampwriaeth. Brasil sydd â'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl ennill y bencampwriaeth ar bum achlysur a hefyd Brasil yw'r unig wlad sydd wedi ymddangos ym mhob cystadleuaeth ers 1930. Mae'r Almaen a'r Eidal wedi ennill y gystadleuaeth ar bedwar achlysur, Yr Ariannin ac Wrwgwái ddwywaith gyda Ffrainc, Lloegr a Sbaen wedi ennill un bencampwriaeth yr un.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cwpan y Byd Pêl-droed, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.