Gwladwriaeth ffederal yng ngorllewin Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer oedd Gorllewin Yr Almaen (Almaeneg: Westdeutschland).
Ei enw ffurfiol oedd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Bundesrepublik Deutschland). Cafodd ei ffurfio ym Mai 1949 a daeth i ben gydag ailuno'r Almaen yn Hydref 1990, pan doddwyd Dwyrain yr Almaen a daeth ei daleithiau yn rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen, gan ddod â 40 mlynedd o Almaen rhanedig i ben. Ers uno'r ddwy wlad yn 1990, yr enw a arferid amlaf ydy Yr Almaen, er mai Bundesrepublik Deutschland yw'r enw swyddogol.
Arwyddair | Einigkeit und Recht und Freiheit |
---|---|
Math | cyfnod o hanes, gwlad ar un adeg |
Prifddinas | Bonn |
Poblogaeth | 63,250,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Das Lied der Deutschen |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | History of Germany (1945–1990), Hanes yr Almaen |
Gwlad | Gorllewin yr Almaen |
Arwynebedd | 248,577 km² |
Yn ffinio gyda | Tsiecoslofacia, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Awstria, Ffrainc, Y Swistir |
Cyfesurynnau | 50.7339°N 7.0997°E |
Arian | Deutsche Mark |
Ffurfiwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn wreiddiol allan o dair ardal orllewinol neu'r "Allied Zones of occupation" a reolwyd gan Unol Daleithiau America, Y Deyrnas Unedig a Ffrainc. Detholwyd Bonn yn brifddinas yn hytrach na Gorllewin Berlin.
Rheolwyd y bedwaredd ardal gan yr Undeb Sofietaidd a galwyd hi yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDA, sef y Deutsche Demokratische Republik, DDR) gyda'i phrifddinas yn Nwyrain Berlin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gorllewin yr Almaen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.