Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg yr Alban: Obar Dheathain; Sgoteg: Aiberdeen).
Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 200,680 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 65.1 km² |
Gerllaw | Afon Don, Afon Dee, Aberdeen Bay |
Cyfesurynnau | 57.15°N 2.1°W |
Cod SYG | S20000478, S19000600 |
Cod post | AB10-AB13 (parte), AB15, AB16, AB22-AB25 |
GB-ABE | |
Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.
Mae gan Aberdeen maes awyr.
Mae trenau'n mynd o orsaf reilffordd Aberdeen i Inverness, Glasgow, Caeredin, Llundain a Penzance.
Mae gwasanaethau fferi Northlink yn mynd i Kirkwall a Lerwick.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aberdeen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.