Prif Weinidog yr Alban (Gaeleg yr Alban: Prìomh Mhinistear na h-Alba; Sgoteg: Heid Meinister o Scotland) yw arweinydd Llywodraeth yr Alban.
Mae'r Prif Weinidog yn cadeirio Cabinet yr Alban ac yn bennaf gyfrifol am lunio, datblygu a chyflwyno polisi Llywodraeth yr Alban. Mae swyddogaethau ychwanegol y Prif Weinidog yn cynnwys hyrwyddo a chynrychioli'r Alban mewn swyddogaeth swyddogol, gartref a thramor, a chyfrifoldeb am faterion cyfansoddiadol.
Math | prif weinidog |
---|---|
Rhan o | Cabinet yr Alban |
Dechrau/Sefydlu | 7 Mai 1999 |
Deiliad presennol | Humza Yousaf |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | First minister of Scotland |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://firstminister.gov.scot/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enwebir y Prif Weinidog gan Senedd yr Alban o blith ei haelodau, ac fe'i penodir yn ffurfiol gan Frenhines Lloegr. Penodir aelodau Cabinet yr Alban a gweinidogion iau Llywodraeth yr Alban yn ogystal â swyddogion cyfraith yr Alban, gan y Prif Weinidog. Fel pennaeth Llywodraeth yr Alban, mae'r Prif Weinidog yn uniongyrchol atebol i Senedd yr Alban am eu gweithredoedd a gweithredoedd y llywodraeth ehangach.
Hamza Yousaf o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) yw Prif Weinidog presennol yr Alban.
Rhif | Delwedd | Enw (Geni-Marw) Etholaeth | Cyfnod yn y Swydd | Plaid y PW | Etholwyd | Plaid y Llywodraeth | Dirpwy | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Donald Dewar (1937–2000) ASA Glasgow Anniesland † Bu farw yn y swydd | 13 Mai 1999 | 11 Hydref 2000 | 1 mlynedd, 151 diwrnod | Llafur | 1999 | Dewar Llafur – Rhyddfrydwyr | Jim Wallace (Dem. Rhyddfrydol) | |||
— | Jim Wallace (dros dro) | 11—26 Hydref 2000 | Democratiaid Rhyddfrydol | ||||||||
2 | Henry McLeish (1948–) ASA Central Fife | 26 Hydref 2000 | 8 Tachwedd 2001 | 1 mlynedd, 13 diwrnod | Llafur | — | McLeish Llafur – Rhyddfrydwyr | ||||
— | Jim Wallace (dros dro) | 8—22 Tachwedd 2001 | Democratiaid Rhyddfrydol | ||||||||
3 | Jack McConnell (1960–) ASA Motherwell a Wishaw | 22 Tachwedd 2001 | 16 Mai 2007 | 5 blynedd, 175 diwrnod | Llafur | — | McConnell (1af) Llafur – Rhyddfrydwyr | Jim Wallace 2001–2005 (LD) Nicol Stephen 2005–2007 (LD) | |||
2003 | McConnell (Ail) Llafur – Rhyddfrydwyr | ||||||||||
4 | Alex Salmond (1954–) ASA Gordon hyd 2011 ASA Dwyrain Aberdeenshire 2011 | 16 Mai 2007 | 19 Tachwedd 2014 | 7 blynedd, 187 diwrnod | Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | 2007 | Salmond (1af) Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) (lleiafrif) | Nicola Sturgeon (SNP) | |||
2011 | Salmond (Ail) Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | ||||||||||
5 | Nicola Sturgeon (1970–) ASA dros Glasgow Southside | 20 Tachwedd 2014 | cyfredol | 9 blynedd, 159 diwrnod | — | Sturgeon (1af) Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | John Swinney (SNP) | ||||
2016 | Sturgeon (Ail) Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) (lleiafrif) |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prif Weinidog yr Alban, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.