Nicola Sturgeon (ganwyd 19 Gorffennaf 1970) yw Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban a bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 17 Mai 2007 a 19 Tachwedd 2014.
Ar 15 Chwefror 2023 cyhoeddoedd ei fod am ymddiswyddo fel prif weinidog ac arweinydd yr SNP wedi i olynydd gael ei ethol.
Nicola Sturgeon | |
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Tachwedd 2014 – 28 Mawrth 2023 | |
Dirprwy Brif Weinidog yr Alban | |
Cyfnod yn y swydd 17 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014 | |
Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban | |
Cyfnod yn y swydd 5 Medi 2012 – 19 Tachwedd 2014 | |
Arweinydd yr SNP | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 14 Tachwedd 2014 | |
Geni | 19 Gorffennaf 1970 Irvine, Gogledd Swydd Ayr |
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Peter Murrell |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP) ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn Ddepute (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r Aelod Senedd yr Alban (MSP) dros Glasgow (Deheuol).
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu Depute). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.
Cafodd ei geni yn Irvine, Gogledd Swydd Ayr. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Greenwood Academy, Dreghorn ac aeth yn ei blaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Glasgow ble y cafodd LLB gydag Anrhydedd a Diploma mewn Cyfraith Ymarferol. Yn Glasgow roedd yn flaenllaw iawn yng ngwaith yr SNP. Yna gweithiodd fel cyfreithwraig yn Stirling ac yna Canolfan y Gyfraith yn Drumchapel, Glasgow cyn iddi gael ei hethol yn MSP (Aelod o Lywodraeth yr Alban).
Yn 2012, etholodd Cabined Llywodraeth yr Alban Sturgeon i ofalu am Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014, ac felly'n gyfrifol am ymgyrch yr SNP dros annibyniaeth. Cred Sturgeon y gall annibyniaeth gryfhau'r Alban gan ei wneud yn fwy cystadleuol, gan newid blaenoriaethau gwariant y wlad ac ateb y broblem o dlodi dybryd.
Mewn cyfweliad gyda'r Daily Record, dywedodd Sturgeon y gobeithiai rywdro fod y ferch gyntaf yn swydd y Prif Weinidog. Ar 19 Tachwedd 2014 gwireddwyd hynny yn dilyn ymddiswydiad Alex Salmond.
Enillodd Sturgeon y teitl 'Gwleidydd Albanaidd y Flwyddyn' yn 2008. Yn 2004 a 2008 enillodd Wobr Donald Dewar: Dadleuwr y Flwyddyn, cystadleuaeth a drefnir gan The Herald.
Yn Chwefror 2013 enwyd hi fel 20fed ferch mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig gan Women's Hour ar Radio 4.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nicola Sturgeon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.