Arbenigwr ym maes Mathemateg yw mathemategydd, ac sy'n astudio rhif, data, modelau, strwythur, gofod, newid (Calcwlws) a nifer o israniadau eraill.
Yn aml mae'n datrus problemau mathemategol naill ai mewn mathemateg bur neu mathemateg gymhwysol, ar gyfer sefyllfaoedd real y byd mawr.
Un o'r mathemategwyr cyntaf y ceir conod ohono yw Thales o Filetus (c. 624–c.546 CC) a'r ferch gyntaf oedd Hypatia o Alexandria (AD 350 - 415) a ysgrifennodd nifer o lyfrau ar fathemateg gymhwysol. Blodeuodd tad geometreg, sef Euclid o Alexandria yn 300 CC. Magwyd sawl cyfieithydd Islamaidd a drodd at fathemateg, gan gynnwys Ibn al-Haytham; un nodwedd ohonynt oedd eu bod yn aml-ddisgyblaethol, yn bolymath. Yn yr Oesoedd Canol roedd mathemategwyr Ewropeaidd yn dilyn gyrfâu eraill, gan droi at fathemateg fel diddordeb: peiriannydd oedd Niccolò Fontana Tartaglia, cyfreithiwr oedd François Viète a meddyg oedd y Cymro Robert Recorde.
Erbyn y 17g, daeth y prifysgolion yn feithrinfeydd i syniadau newydd gyda Robert Hooke a Robert Boyle ym Mhrifysgol Rhydychen ac Isaac Newton yng Nghaergrawnt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mathemategydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.