Mab gweinidog yr Annibynwyr (Thomas Jones) oedd John Viriamu Jones (2 Ionawr 1856 - 1 Mehefin 1901) ac roedd yn wyddonydd deallus a galluog.
Cafodd ei eni ym Mhentre Poeth, Abertawe.
John Viriamu Jones | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1856 Pentre Poeth |
Bu farw | 1 Mehefin 1901, 1901 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, ffisegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Bu ym mhrifysgolion Llundain a Rhydychen, lle lwyddodd i gael gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg. Yn 1881 fe'i gwnaed yn brifathro Coleg Frith, a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i Brifysgol Sheffield. Yn 1883, ac yntau'n dal yn ei ugeiniau, daeth yn brifathro Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ac yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Cymru yn 1895.
Yn 1901 bu farw yng Ngenefa, y Swistir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Viriamu Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.