Mathemategydd a meddyg Cymreig oedd Robert Recorde (tua 1512 – 1558).
Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hafalnod '=', a hynny yn 1557. Ef hefyd oedd y cyntaf i gyflwyno'r symbol 'adio' neu 'plws' (+) i siaradwyr Saesneg, hefyd yn 1557.
Robert Recorde | |
---|---|
Ganwyd | c. 1512, 1510 Dinbych-y-pysgod |
Bu farw | 1558 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, meddyg, athronydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Whetstone of Witte |
Fe'i ganwyd i deulu parchus yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro, ac fe aeth ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Ymgartrefodd yn Llundain fel meddyg a dywedir fod y brenin a'r frenhines ymhlith ei gleifion. Cafodd ei benodi'n bennaeth y bathdy ym Mryste yn 1549. Roedd yn gyfaill i'r mathemategydd, alcemydd ac athronydd Cymreig John Dee.
Bu farw yng Ngharchar Mainc y Brenin yn Southwark, wedi iddo fynd i ddyled.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robert Recorde, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.