Charles Babbage

Mathemategydd a arloesodd yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel cyfrifiadureg oedd Charles Babbage, FRS (26 Rhagfyr 1791 –18 Hydref 1871).

Roedd ganddo wybodaeth eang iawn o sawl pwnc, gan gynnwys athroniaeth, dyfeisio a pheirianneg. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio codio cyfrifiadurol.

Charles Babbage
Charles Babbage
Ganwyd26 Rhagfyr 1791 Edit this on Wikidata
Llundain, Walworth Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1871 Edit this on Wikidata
Marylebone Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, economegydd, athronydd, academydd, peiriannydd, seryddwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAthro Lucasiaidd mewn Mathemateg Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amanalytical engine Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAda Lovelace Edit this on Wikidata
PriodGeorgiana Whitmore Edit this on Wikidata
PlantBenjamin Babbage, Henry Babbage Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Knight of the Royal Guelphic Order Edit this on Wikidata
llofnod
Charles Babbage

Ystyrir ef gan rai fel un o'r rhai cyntaf i ragweld gallu'r cyfrifiadur ac yn "Dad y Cyfrifiadur", Cynlluniodd y cyfrifiadur mecanyddol cyntaf, mae'n debyg, a arweiniodd ef i greu cynlluniau mwy cynhleth. Mae rhai o'i greadigaethau i'w canfod yn Amgueddfa Gwyddoniaeth Llundain. Crewyd "peiriant gwahaniaethu" (difference engine) drwy ddefnyddio'r cynlluniau a wnaeth dros ganrif yn ôl; gweithiodd y peiriant yn union fel y breuddwydiai Babbage. Mae John Tucker yn y gyfrol Robert Recorde (gol.: Gareth Roberts a Lenny Smith) fodd bynnag, yn dadlau mai'r mathemategydd Cymreig Robert Recorde a osododd rai o'r sylfeini sydd wrth wraidd cysyniadau Babbage.

Plentyndod

Ceir anghytundeb ynglŷn ag union fan geni Babbage, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography mae'n debygol iddo gael ei eni yn 44 Crosby Row, Walworth Road, Llundain. Ceir plac glas ar y mur yn nodi hynny. Roedd yn un o bedwar o blant a anwyd i Benjamin Babbage a Betsy Plumleigh Teape. Gweithio fel partner mewn banc oedd ei dad i gwmni a sefydlodd gyda William Praed, sef: Praed's & Co. yn Stryd y Fflyd, Llundain, yn 1801. Yn 1808, symudodd teulu'r Babbage i dref yn Ne Dyfnaint, Teignmouth. Yn wyth oed fe'i danfonwyd i ysgol yn Alphington, yng nghanol y wlad, ger Exeter. Am gyfnod byr bu'n ddisgybl yn Ysgol King Edward VI, Totnes, ond nid oedd ei iechyd yn arbennig o dda a chafodd diwtoriaid personol i'w addysgu. Yna bu yn Academi Holmwood, Middlesex, ac yn llyfrgell yr ysgol honno y disgynodd mewn cariad gyda mathemateg. Pan oedd oddeutu 16 oed dychwelodd i Totnes.

Coleg

Yn Hydref 1810 cyrhaeddodd Goleg y Drindod, Caergrawnt. Roedd wedi datblygu cymaint yn ei fathemateg, ceir gohebiaeth ganddo sy'n nodi ei fod yn siomedig yn safon y gwaith yno. Yn 1812 trosglwyddodd i Peterhouse, Caergrawnt lle daeth i'r brig a derbyniodd radd yn 1814 heb orfod sefyll unrhyw arholiad.

Cyfnod heb waith

Bu'n darlithio yn y Royal Institution mewn seryddiaeth yn 1815, ac fe'i etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1816. Ond siomedig oedd y blynyddoedd a ddilynodd hynny, a methodd a chael swydd fel athro yn 1816. Yn 1819, ymwelodd Babbage a Herschel â Pharis a chymdeithas Society of Arcueil, gan gyfarfod mathemategwyr a ffisegwyr blaenllaw'r dydd. Y flwyddyn honno, ymgeisiodd am swydd fel athro Prifysgol Caeredin ond heb lwyddiant.

Ceisiodd sefydlu cwmni yswiriant, ond heb lwyddiant eto; yn ystod y cyfnod hwn, dibynai'n gyfangwbwl ar daliadau cyson gan ei dad. Gwnaeth ei nyth yn Marylebone, Llundain, a llenwodd hwnnw gyda phlant. Ond yn 1827, bu farw ei dad ac etifeddodd Babbage ystâd enfawr gwerth £100,000, (sy'n gyfwerth a £7.73 miliwn heddiw), gan ei wneud yn ddyn ariannog iawn.

Wedi marwolaeth ei wraig, yn yr un flwyddyn (1827) bu farw'i wraig a chymerodd y goes, gan deithio'r Eidal, tra chyflogai nyrsus i warchod ei blant a Herschel i ddatblygu ei syniadau ar y peiriant gwahaniaethu. yn Rhufain, yn Ebrill 1828 clywodd ei fod wedi'i benodi'n Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar ei bedwerydd ymgais!

Y Gymdeithas Seryddol

Sefydlodd ac arianodd y Gymdeithas Seryddol yn 1820 gyda'r bwriad o leihau cyfrifiadau mathemategol, gan eu gwneud yn fwy hylaw. Enillodd fedal y gymdeithas "for his invention of an engine for calculating mathematical and astronomical tables". Pwrpas creu peiriant gwahaniaethu, meddai Babbage, oedd ymgais i wella'r The Nautical Almanac.

Gyda'i gyfaill Thomas Frederick Colby, ymchwiliodd i'r posibilrwydd o greu system bost drwy Brydain, a dyfeisiodd system a alwyd yn Uniform Fourpenny Post a Uniform Penny Post yn 1839 a 1840.

Charles Babbage 
Bedd Babbage ym Mynwent Kensal Green, Llundain; 2014

Ada Lovelace

Bu Ada Lovelace yn gohebu gyda Babbage am beth amser, tra chynlluniodd y peiriant gwahaniaethu. Gwelir yn ei nodiadau hi yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.

Disgynyddion

Cafodd Charles a Georgiana Babbage wyth o blant, ond 4 yn unig a fu fyw'n oedolion – Benjamin Herschel Babbage, Georgiana Whitmore, Dugald Bromhead Babbage a Henry Prevost.

  • Benjamin Herschel Babbage (1815-1878)
  • Charles Whitmore Babbage (1817-1827)
  • Georgiana Whitmore Babbage (1818-??)
  • Edward Stewart Babbage (1819-1821)
  • Francis Moore Babbage (1821-??)
  • Dugald Bromhead (Bromheald?) Babbage (1823-1901)
  • (Maj-Gen) Henry Prevost Babbage (1824–1918)
  • Alexander Forbes Babbage (1827–1827)

Cyfeiriadau

Tags:

Charles Babbage PlentyndodCharles Babbage ColegCharles Babbage Cyfnod heb waithCharles Babbage DisgynyddionCharles Babbage CyfeiriadauCharles Babbage179118 Hydref187126 RhagfyrAthroniaethCyfrifiaduregMathemategY Gymdeithas Frenhinol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cylchfa amserAneirin KaradogInto TemptationGlasgowOrgasmYsgol y MoelwynArchesgob CymruHuw Arwystli29 TachweddHannah MurrayGeorge BakerDe CoreaMawnReilly FeatherstoneISO 4217Shani Rhys JamesA Ilha Do AmorDurlifLibanusAre You Listening?Rhanbarthau'r EidalThomas KinkadeWicipedia CymraegJimmy WalesY Fari LwydCentral Coast (De Cymru Newydd)Gruffydd WynETATrearddurDisturbiaLouis PasteurXHamsterAristotelesY DiliauVin DieselGwïon Morris JonesTiranaLluosiGweriniaeth IwerddonAdolf HitlerArbeite Hart – Spiele HartGwyddoniadurCaersallogNASABrominWalla Walla, WashingtonTony ac AlomaCreampieGwen StefaniRwmaniaBlue Island, IllinoisLumberton Township, New JerseyLa Orgía Nocturna De Los VampirosCoca-ColaCascading Style SheetsCatfish and the BottlemenAmazon.comBig BoobsSupport Your Local Sheriff!Obras Maestras Del TerrorParalelogramHafanTrênLeon TrotskyIslamThe Public DomainAlbert Evans-JonesY Weithred (ffilm)Nia Ben AurLlwyn mwyar duonMantraGwlad y BasgCymdeithas🡆 More