Y Fari Lwyd: Traddodiad cyn-gristnogol, Celtaidd

Arferai partïon 'canu gwaseila' gludo pen neu benglog caseg neu geffyl a elwid yn Fari Lwyd o ddrws i ddrws, yn enwedig drwy Forgannwg, lle bu'n draddodiad di-dor.

Mae pentref Llangynwyd ym Morgannwg yn parhau hyd heddiw i gynnal y Fari Lwyd, ac yn ddiweddar mae llawer o ardaloedd wedi ei hatgyfodi.

Y Fari Lwyd
Y Fari Lwyd: Cân y Fari Lwyd, Y ceffyl pantomeim, Oriel
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr tua 1910
Enghraifft o'r canlynoldefod, traddodiad Celtaidd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHen Galan Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Fari Lwyd: Cân y Fari Lwyd, Y ceffyl pantomeim, Oriel
Y Fari Lwyd; 2014

Deillia'r hen arfer o dywys y 'Fari Lwyd' o gwmpas tai o hen ddefod a oedd unwaith yn ymwneud â ffrwythlondeb, mae'n debyg. Fe'u cynhelid o noswyl y Nadolig hyd 6 Ionawr ac weithiau ar ôl hynny hyd yn oed ac roedd i'r ddefod gysylltiad arbennig â Nos Ystwyll (sef 5 Ionawr). Mae'r ffigwr hwn o ben ceffyl yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill hefyd. Ymhlith yr arferion eraill a gynhelid yr adeg hon (ond sydd, yn wahanol i ddefod y Fari Lwyd wedi diflannu o'r tir) y mae hela'r dryw bach a gwaseila.

Y Fari Lwyd: Cân y Fari Lwyd, Y ceffyl pantomeim, Oriel
Gwaith celf gan Rhŷn Williams yn seiliedig ar y Fari lwyd draddodiadol.

Cân y Fari Lwyd

William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Pen–y–bont ar Ogwr, Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol cân y Fari Lwyd.

Fel rhan o ddefod y Fari Lwyd, ceir ymryson rhwng y gwaseilwyr a pherchennog y tŷ, bob yn ail, gyda chais i ddod i mewn i'r tŷ. Yn Tâp AWC 7. Recordiwyd tâp gan Amgueddfa Werin Cymru yn Hydref 1953 o William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol yr ysmryson hwn. Hyd at tuag 1933 arferai Rees weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan fynd a'r Fari Lwyd allan i'ri'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont (Coety, Bryncethin, ayb).

Ceir saith bennill sy'n cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai ‘difyfyr’) rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu 'allan o diwn', ei feddwdod, ei grintachrwydd, ayb. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod ac weithiau, rodd ariannol. Weithiau, o leiaf, wedi gorffen 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'r holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar fesur triban ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.

Y Fari Lwyd: Cân y Fari Lwyd, Y ceffyl pantomeim, Oriel 

Geiriau

Amrywiad o fersiwn a recordiwyd gan Sain Ffagan:

    Wel dyma ni'n dywad,
    Gyfeillion diniwad,
    I ofyn 's cawn gannad,
    I ofyn 's cawn gannad,
    I ofyn 's cawn gannad
    I ganu.
    Os na chawn ni gannad,
    Rhowch glywad ar ganiad
    Pa fodd ma'r 'madawiad
    Pa fodd ma'r 'madawiad
    Pa fodd ma'r 'madawiad
    Nos heno.
    Ni dorson ein crimpa
    Wrth groeshi'r sticila
    I ddyfod tuag yma
    I ddyfod tuag yma
    I ddyfod tuag yma
    Nos heno.
    Os oes yna ddynion
    All dorri anglynion,
    Rhowch glywad yn union
    Rhowch glywad yn union
    Rhowch glywad yn union
    Nos heno.
    Os aethoch rhy gynnar
    I'r gwely'n ddialgar,
    O, codwch yn hawddgar
    O, codwch yn hawddgar
    O, codwch yn hawddgar
    Nos heno.
    Y dishan fras felys
    Â phob sort o sbeisys,
    O, torrwch hi'n rhatus
    O, torrwch hi'n rhatus
    O, torrwch hi'n rhatus
    Y Gwyla.
    O, tapwch y baril
    A 'llengwch a'n rhugul;
    Na rannwch a'n gynnil
    Na rannwch a'n gynnil
    Na rannwch a'n gynnil
    Y gwyla.

Nodyn gan Sain Ffagan ar y fersiwn yma:

Tâp AWC 7. Recordiwyd Hydref 1953 gan William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger Pen–y–bont ar Ogwr, Sir Forgannwg. Hyd at tuag 1933 arferai WMR weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan ddwyn y Fari Lwyd allan, yn y pentrefi i'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont (Coety, Bryncethin, ayb.).

Y ceffyl pantomeim

Yn ôl rhai y Fari Lwyd Geltaidd yw tarddiad y cymeriad hanfodol hwnnw, y Ceffyl Pantomeim. Mae'n ymddangos cyn belled yn ôl â 1503 mewn drama Gernyweg, Beunaus Meriasek, am fywyd Sant Meiriadog.

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Y Fari Lwyd Cân y Fari LwydY Fari Lwyd Y ceffyl pantomeimY Fari Lwyd OrielY Fari Lwyd Gweler hefydY Fari Lwyd CyfeiriadauY Fari Lwyd Dolen allanolY Fari LwydLlangynwydMorgannwgSir Forgannwg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Dewi SantGwladwriaeth IslamaiddYnniLe Porte Del SilenzioGwobr Ffiseg NobelAneirin Karadog19331993Afon Taf (Sir Gaerfyrddin)Owain Glyn DŵrThe Principles of LustInterstellarAsbestos178Winslow Township, New JerseyRhif Llyfr Safonol RhyngwladolThe Rough, Tough WestY Derwyddon (band)11 EbrillY WladfaAfon GlaslynBenjamin FranklinClorinCeredigionVaniYsgol Gyfun YstalyferaMaricopa County, ArizonaBlogAlan TuringBronnoethHai-Alarm am MüggelseeSinematograffyddElipsoidCymraegLlanfair PwllgwyngyllContact24 EbrillGwleidyddiaeth y Deyrnas UnedigHywel Hughes (Bogotá)Faith RinggoldNionynOes y TywysogionY DiliauDegCoron yr Eisteddfod GenedlaetholPrwsiaAfon YstwythPwylegY Rhyfel Byd CyntafSgifflVerona, PennsylvaniaNew HampshireAbdullah II, brenin IorddonenHuw ChiswellAdar Mân y MynyddY CwiltiaidMississippi (talaith)Cerrynt trydanolIâr (ddof)Gina GersonRwsiaOmanAlbert Evans-JonesUTCNot the Cosbys XXX🡆 More