Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Rhuthun ( ynganiad ).
Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg drwyddi. Roedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0).
Nantclwyd y Dre | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Henllan |
Cyfesurynnau | 53.1144°N 3.3106°W |
Cod SYG | W04000174 |
Cod OS | SJ127854 |
Cod post | LL15 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Mae Rhuthun wedi ei hefeillio â thref Brieg, Llydaw. Ceir dwy ysgol uwchradd: Ysgol Brynhyfryd a Ysgol Rhuthun (neu Ruthin School) sy'n ysgol breifat. Yr enw lleol ar yr ysgol breifat ydy "Ysgol y Capie Cochion".
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).
Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19g. Arferai fod yn brif dref Dogfeiling yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd. Mae stryd yn y dref yn dal i gael ei galw'n "Dog Lane" (neu "Stryd Dogfael") ar ei ôl. Mae Maen Huail yn garreg o flaen Banc Barclays ac sy'n coffau torri pen brawd Gildas, yn ôl y chwedl.
Dafydd ap Gruffudd (1238-83) a gododd y castell cyntaf i gael ei gofnodi ar y safle hwn, er bod tystiolaeth fod yma gastell cyn hyn. Cryfhawyd y castell yn helaeth gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280. Enw gwreiddiol y Dref oedd 'Castell Coch yng Ngwern-fôr, oherwydd y tywodfaen coch yn waliau'r castell.
Ar 16 Medi 1400 llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun yn ulw, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presennol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain: 'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!' Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint.
Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback. a adferwyd yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:
Yn ôl yr hanesydd Peter Smith, 'Tan y 18g roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Tŷ Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...' . Capel hynaf y dref yw Pendref.
Agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd ar droad y mileniwm, adeilad hynod, sy'n dyddio nôl i oddeutu 1445. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.
Ceir Canolfan Grefftau yn Rhuthun, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn enwedig am ei bensaerniaeth.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Mae'r codau canlynol yn cysylltu'n uniongyrchol ag erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg:
Yn ychwanegol at y rhain mae 6 arall sy'n cysylltu gyda'r erthygl hon.
Mae Rhuthun wedi'i gefeillio â:
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhuthun, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.