Plwyf eglwysig yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Llanfwrog ( ynganiad ).
Fe'i lleolir fymryn i'r de-orllewin o ganol tref Rhuthun, yn rhan uchaf Dyffryn Clwyd ar y ffordd B5105 sy'n cysylltu Rhuthun a Cherrigydrudion. Pentref ar wahân fu Llanfwrog tan yn ddiweddar, ond gyda chodi tai newydd rhyngddo a Rhuthun mae'r pentref wedi troi'n fath o faesdref i'r dref honno erbyn heddiw.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1073°N 3.3234°W |
Cod OS | SJ113575 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanfwrog gan Sant Mwrog (6g efallai). Cysylltir y sant hwnnw â Llanfwrog arall ar Ynys Môn hefyd. Mae'r eglwys, a gysegrir i Fwrog a'r Forwyn Fair, yn hynafol. Saif ar godiad tir ger y B5105. Mae ganddi dŵr sgwâr o gerrig calchfaen yn ei phen gorllewinol a addurnir a meini tywodfaen coch. Ceir corff (nave) dwbl, ffurf sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth hen eglwysi Dyffryn Clwyd. Ychwanegwyd yr ail yn y 14g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llanfwrog, Sir Ddinbych, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.