Afon yn ne-ddwyrain yr Alban yw Afon Spey (Gaeleg yr Alban: Abhainn Spè neu Uisge Spè).
Mae'n tua 107 milltir (172 km) o hyd. Mae'n nodedig am bysgota am eog a chynhyrchu chwisgi.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir, Moray |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.674187°N 3.098504°W |
Tarddiad | Loch Spey |
Aber | Moryd Moray |
Llednentydd | Afon Calder, Afon Druie, Afon Dulnain, Afon Feshie, Afon Fiddich, Afon Nethy, Afon Tromie, Afon Truim, Afon Avon |
Dalgylch | 3,008 cilometr sgwâr |
Hyd | 172 cilometr |
Arllwysiad | 64 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Loch Insh, Spey Dam Reservoir |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'n tarddu ar uchder o dros 1,000 troedfedd (300 m) yn Loch Spey yn Ucheldiroedd yr Alban, tua 10 milltir (16 km) i'r de o Fort Augustus, ac yn llifo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Mae'n llifo trwy trefi Newtonmore a Kingussie, trwy Loch Insh, heibio tref Aviemore, trwy tref Grantown-on-Spey ac ymlaen am 60 milltir (97 km) nes iddi ymuno Môr y Gogledd ym Moryd Moray.
Afonydd Trium, Calder, Tromie, Feshie, Druie, Nethy, Dulnain, Avon a Fiddich yw prif lednentydd Afon Spey.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afon Spey, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.