Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983 ar 9 Mehefin 1983.
Cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif aruthrol o 144 sedd, dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher - y mwyafrif mwyaf ers 1945.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Roedd yr wrthbleidiau wedi'u hollti'n eitha cyfartal, rhwng Llafur a Chynghrair y SDP-Rhyddfrydwyr. Dyma oedd perfformiad gwaethaf Llafur ers 1918, gyda'u canran o'r bleidlais yn syrthio tair miliwn ers yr etholiad blaenorol yn 1979. Golygai hyn i'r gogwydd o 4% fynd i gyfeiriad y Ceidwadwyr, a gafodd fwyafrif o 144 sedd. Er hyn, roedd cyfanswm pleidleisiau'r Ceidwadwyr wedi lleihau 700,000. Yn anarferol iawn, gwelwyd y blaid a oedd yn y Llywodraeth (y Ceidwadwyr) yn cynyddu nifer eu seddi.
Roedd y bedair mlynedd cyn yr etholiad wedi bod yn llawn o drafferthion i Thatcher: diweithdra wedi llamu wrth iddi ymdrechu i ffrwyno chwyddiant a oedd ar garlam am y rhan fwyaf o'r 70au. Ar ddechrau 1982 roedd y nifer a oedd yn ddiwaith ymhell dros dair miliwn - am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd. Ac roedd dirwasgiad yn yr economi yn cnoi ers dwy flynedd. Ond, roedd penderfyniad Thatcher i hawlio'n filwrol Ynysoedd y Falklands, neu'r Malvinas, wedi troi'r etholwyr i'r gorlan Geidwadol, a daeth Thatcher yn boblogaidd unwaith eto - yn enwedig yn Lloegr.
Roedd y Gynghrair SDP-Rhyddfrydwyr yn agos iawn i Lafur yn y ras, dim ond cant neu ddau o bleidleisiau a 25% o'r bleidlais, ond roedd cryn dipyn yn llai o seddau ganddynt ar ddiwedd y dydd. Dyma'r ganran uchaf i drydedd plaid ei chael mewn etholiad cyffredinol yn y DU (cofnodir hyn yn 2014); canlyniad hyn oedd ymgyrch gref gan y Gynghrair i sefydlu system bleidleisio tecach a fyddai'n cynnwys elfen o gynrychiolaeth gyfrannol yn hytrach na System etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Etifeddwyd yr ymgyrch hon, flynyddoedd yn ddiweddarach gan y Blaid Ryddfrydol.
Ymddiswyddodd arweinydd y Blaid Lafur, Michael Foot, ychydig wedi'r etholiad; roedd wedi bod wrth y llyw ers ymddiswyddiad James Callaghan a oedd yn Brif Weinidog Llafur rhwng 1976 a 1979. Etholodd Llafur Gymro ar ei ôl - Neil Kinnock. Yn yr etholiad hon, gwelwyd dau lanc ifanc yn cael eu hethol yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf: Tony Blair a Gordon Brown.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.