Mae Washington yn dalaith yng ngogledd-orllewin eithaf yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar lan y Cefnfor Tawel ac yn ffinio â Chanada i'r gogledd.
Amgylchynir y dalaith gan fynyddoedd uchel, ac mae ei chopaon yn cynnwys Mynydd St Helens. Yn y canolbarth ceir Basn Columbia gydag Afon Columbia ac Afon Snake yn llifo trwyddo. Yn yr iseldiroedd o gwmpas Swnt Puget yn y gorllewin y lleolir y rhan fwyaf o boblogaeth y dalaith. Mae ynysoedd yn Swnt Puget hefyd yn rhan o'r dalaith.
Arwyddair | by and by |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | George Washington |
Prifddinas | Olympia, Washington |
Poblogaeth | 7,705,281 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jay Inslee |
Cylchfa amser | UTC−08:00, America/Los_Angeles, UTC−07:00 |
Gefeilldref/i | Hyōgo, Jalisco |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Lleoliad | Pacific Northwest, Pacific States Region |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 184,827 km² |
Uwch y môr | 520 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Afon Columbia, Strait of Georgia, Haro Strait, Strait of Juan de Fuca |
Yn ffinio gyda | British Columbia, Idaho, Oregon |
Cyfesurynnau | 47.5°N 120.5°W |
US-WA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Washington |
Corff deddfwriaethol | Washington State Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Washington |
Pennaeth y Llywodraeth | Jay Inslee |
Roedd Washington yn rhan o ardal fasnach Cwmni Bae Hudson tan y 1840au, ond ni chafwyd llawer o ymsefydlwyr gwyn yno. Un o'r llwythau brodorol oedd y Nez Perces, a ymladdodd ryfel byr ond enwog i geisio cadw eu hannibyniaeth dan eu harweinydd carismatig y Pennaeth Ioseff. Yn 1846 cytunwyd ar y ffin rhwng Canada a'r diriogaeth. Daeth yn dalaith yn 1889, wedi iddi gael ei henwi ar ôl George Washington. Olympia yw'r brifddinas.
1 | Seattle | 608,660 |
2 | Spokane | 208,916 |
3 | Tacoma | 198,397 |
4 | Vancouver | 161,791 |
5 | Bellevue | 122,363 |
6 | Olympia | 46,478 |
Mae'r ynysoedd isod yn rhan o'r dalaith:
Anderson, Bainbridge, Blake, Blakeley, Brown, Camano, Chief Timothy, Crane, Cypress, Decatur, Edmount, Eliza, Fidalgo, Fox, Gedney, Goose, Guemes, Harbor, Harstine, Henry, Herron, Indian, James, Johns, Jones, Ketron, Long, Lopez, Lummi, Marrowstone, McMicken, McNeill, Mercer, Orcas, Pearl, Portage, Protection, Puget, Raft, Reach, San Juan, Shaw, Sheep, Sinclair, Spieden, Squaxin, Steamboat, Stretch, Stuart, Sucia, Tatoosh, Vashon-Maury, Vendovi, Waadah, Waldron, Whidbey.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Washington (talaith), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.