Cenedlaetholdeb Cymreig yw'r mudiad cenedlaetholgar gwleidyddol a diwylliannol o blaid hawliau i'r Gymraeg, cydraddoldeb crefyddol, ac ymreolaeth leol yng Nghymru.
Er bod rhyw syniad o genedlaetholdeb wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd (yn enwedig o dan ymosodiadau goresgynwyr, e.e. y Saeson, y Normaniaid), daeth cenedlaetholdeb Cymreig modern i'r amlwg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i'r Cymry cael eu calonogi gan fudiadau cenedlaetholgar ar draws Ewrop, megis yn Iwerddon, yr Eidal a Hwngari. Lledaenodd cysyniadau cenedlaetholgar gyda thwf Anghydffurfiaeth yng Nghymru a theimladau gwrth-Seisnig yn dilyn Brad y Llyfrau Gleision a cheisiadau eraill gan lywodraeth Lloegr i Seisnigo'r wlad.
Cynyddodd teimladau cenedlaethol a gwrth-Seisnig yn 1847 gyda chyflwyniad adroddiad a gomisiynwyd gan senedd San Steffan ar gyflwr addysg yng Nghymru, a elwir yn Frad y Llyfrau Gleision oherwydd lliw clawr yr adroddiad. Dywedodd yr adroddiad bod cyflwr y system addysg yn y wlad yn wael iawn a cheir bortread negyddol o'r Cymry a'u hiaith, ond barn gul y Saeson Saesneg a ysgrifennodd yr adroddiad oedd hyn.
Ymgyrchodd y blaid wladgarol Cymru Fydd am hunanlywodraeth Gymreig, o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth Ryddfrydol, rhwng 1886 a 1896. Un o'u hamcanion oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, a ddaeth yn realiti yn 1920 gyda dyfodiad yr Eglwys yng Nghymru.
Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 o dan arweinyddiaeth Saunders Lewis gyda phwyslais ar ddiogelu'r fro Gymraeg [angen ffynhonnell] a chymunedau Cymraeg ar draws y wlad. Ni enillodd llawer o gefnogaeth gan bleidleiswyr i ddechrau, ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd, o dan arweinyddiaeth Gwynfor Evans, dechreuodd y blaid ennill seddi mewn etholiadau lleol; enillodd Gwynfor sedd yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, ac enillodd dau aelod arall o'r Blaid seddi yn 1974.
Sefydlwyd nifer o fudiadau eraill yn y cyfnod hwn, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, a sefydlwyd yn 1962 fel ymateb i ddarlith Lewis, Tynged yr Iaith. Bu buddugoliaethau i'r cenedlaetholwyr gyda darpariaeth addysg ddwyieithog yn yr 1970au ac S4C, y sianel deledu Cymraeg, yn 1982. Ym Mawrth 1979, pleidleisiodd rhyw 80% yn erbyn cynulliad Cymreig mewn refferendwm, wnaeth awgrymu taw teimlad diwylliannol yn hytrach na gwleidyddol oedd cenedlaetholdeb Cymreig yn bennaf. Yn yr 1980au, teimlodd rhai bygythiad gan fewnfudwyr o Loegr i gefn gwlad Cymru, oedd yn cynnwys twf yn nhai gwyliau, a chafodd rhai eu llosgi gan eithafwyr. Ni chlywir sôn am ymreolaeth gan lywodraeth Prydain nes hwyr yr 1990au gyda dychweliad y Blaid Lafur i San Steffan; ym Medi 1997 bu refferendwm ar gynulliad Cymreig yn pennu gyda mwyafrif bach o blaid cynulliad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cenedlaetholdeb Cymreig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.