Roedd y 19g yng Nghymru yn gyfnod o newid mawr ym mywyd y wlad.
Dyma ganrif y Siartwyr a Dic Penderyn, Brad y Llyfrau Gleision a Helyntion Beca.
Hanes Cymru | |
---|---|
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres | |
Cyfnodau | |
Cynhanes | |
Cyfnod y Rhufeiniaid | |
Oes y Seintiau | |
Yr Oesoedd Canol | |
Yr Oesoedd Canol Cynnar | |
Oes y Tywysogion | |
Yr Oesoedd Canol Diweddar | |
Cyfnod y Tuduriaid | |
17eg ganrif | |
18fed ganrif | |
19eg ganrif | |
20fed ganrif | |
Y Rhyfel Byd Cyntaf | |
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd | |
Yr Ail Ryfel Byd | |
21ain ganrif | |
Teyrnasoedd | |
Deheubarth | |
Gwynedd | |
Morgannwg | |
Powys | |
Yn ôl pwnc | |
Hanes crefyddol | |
Hanes cyfansoddiadol | |
Hanes cyfreithiol | |
Hanes cymdeithasol | |
Hanes demograffig | |
Hanes economaidd | |
Hanes gwleidyddol | |
Hanes LHDT | |
Hanes milwrol | |
Hanes morwrol | |
Hanes tiriogaethol | |
Hanesyddiaeth | |
WiciBrosiect Cymru | |
Roedd newidiadau ym myd amaethyddiaeth yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, yn arbennig gyda dechrau cau'r tiroedd comin. Erbyn y 19g roedd y tirfeddianwyr yn codi rhenti mwy ar eu tenantiaid, ac roedd gwasgfa ar y ffermwyr oedd yn berchen eu tir i werthu i'r tirfeddianwyr mawr. Roedd cau'r tir comin yn amddifadu'r ffermwyr o dir pori hanfodol. Mewn gair yr oedd tlodi dybryd yng nghefn gwlad, a hynny pan oedd yna gynnydd yn y boblogaeth.
Yn y 19g roedd y Chwyldro Diwydiannol ar gynnydd a thirwedd Cymru'n newid. Roedd gwaith ar gael mewn trefi fel Y Bers a Brymbo yn y Gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd a threfi De Cymru. Roedd angen cynhyrchu haearn i adeiladu'r peiriannau newydd oedd yn cael eu hadeiladu. Roedd gan Gymru ddigon o haearn a glo hefyd i'r ffwrneisi i weithio'r haearn hwnnw. Felly roedd poblogaeth Cymru ar gerdded o'r ardaloedd gwledig i'r trefi diwydiannol fel Merthyr Tudful a'r Rhondda a oedd yn tyfu yn gyflym. Yn y gogledd agorwyd nifer o chwareli llechi ac ithfaen, mawr a bychain, a thyfodd canolfannau fel Bethesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog yn drefi prysur a ddeuai i chwarae rhan bwysig yn hanes economaidd a diwylliannol y genedl.
Fel bod y bobl yn gallu tramwyo ac i gludo'r glo a'r haearn roedd angen adeiladu ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd.
Y 19g oedd canrif fawr y wasg yng Nghymru. Cyhoeddwyd nifer fawr o gylchgronau a phapurau newydd a daeth mwy o lyfrau Cymraeg allan nag erioed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article 19eg ganrif yng Nghymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.