Roedd y 18g yng Nghymru yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganfrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd Cymru ar lwybr newydd gyda diwydiant yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.
Hanes Cymru | |
---|---|
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres | |
Cyfnodau | |
Cynhanes | |
Cyfnod y Rhufeiniaid | |
Oes y Seintiau | |
Yr Oesoedd Canol | |
Yr Oesoedd Canol Cynnar | |
Oes y Tywysogion | |
Yr Oesoedd Canol Diweddar | |
Cyfnod y Tuduriaid | |
17eg ganrif | |
18fed ganrif | |
19eg ganrif | |
20fed ganrif | |
Y Rhyfel Byd Cyntaf | |
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd | |
Yr Ail Ryfel Byd | |
21ain ganrif | |
Teyrnasoedd | |
Deheubarth | |
Gwynedd | |
Morgannwg | |
Powys | |
Yn ôl pwnc | |
Hanes crefyddol | |
Hanes cyfansoddiadol | |
Hanes cyfreithiol | |
Hanes cymdeithasol | |
Hanes demograffig | |
Hanes economaidd | |
Hanes gwleidyddol | |
Hanes LHDT | |
Hanes milwrol | |
Hanes morwrol | |
Hanes tiriogaethol | |
Hanesyddiaeth | |
WiciBrosiect Cymru | |
Dyma'r ganrif pan oedd y Diwygiad Methodistaidd mewn bri gyda pobl fel Howel Harris, William Williams Pantycelyn a Daniel Rowland yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd ysgolion cylchynol Griffith Jones yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn Anghydffurfwyr o ryw fath, ond arosai nifer yn ffyddlon i'r Eglwys yn ogystal.
Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn Gymry uniaith Gymraeg o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach cefn gwlad. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y Gwyliau Mabsant. Yn ail hanner y ganrif roedd yr anterliwt ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain.
Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr newyddiaduriaeth yng Nghymru gydag ymddangosiad y cylchgronau cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r Eisteddfod Genedlaethol gyda gwaith y Gwyneddigion yn Llundain ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth Celtaidd ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel Dafydd ap Gwilym a'r Gogynfeirdd diolch i waith Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Morrisiaid Môn. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y twristiaid cyntaf - ac ymledodd dylanwad y Mudiad Rhamantaidd ar lenorion ac artistiad y wlad, fel yr arlunydd enwog Richard Wilson.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article 18fed ganrif yng Nghymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.