Roedd Daniel Rowland, Llangeitho (1713 – 16 Hydref 1790) yn un o arweinwyr y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif, ynghyd â William Williams a Howel Harris.
Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Griffith Jones tua 1735.
Daniel Rowland | |
---|---|
Ganwyd | 1713 Cymru, Nancwnlle |
Bu farw | 16 Hydref 1790 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Plant | John Rowland, Nathaniel Rowland |
Treuliodd y rhan fwya o'i fywyd yn giwrad ym mhlwyfi Nantcwnlle a Llangeitho, Ceredigion. Cydnabyddwyd ef fel pregethwr ac fe drodd e Langeitho yn ganolfan i Fethodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru.
Cafodd ei luchio o'r Eglwys Anglicanaidd am i'w bregethu achosi'r fath ferw - y diwygiad Methodistaidd yn arbennig. Wedi hynny, sefydlodd achos Methodistaidd yn Llangeitho.
Roedd ei bregethau cynnar yn adnabyddus fel rhai dychrynllyd, am eu bod yn sôn cymaint am Farn Duw ynddynt. Ond wrth aeddfedu, rhoddai fwy o bwyslais ar y waredigaeth ar y Groes. Ystyrid ei ddiwinyddiaeth a'i gymeriad yn fwy cyson a sefydlog na'i gyfaill Howel Harris yn ystod y diwygiad.
"Dros y Mynydd Bach" y byddai pererinion Anghydffurfiol o mor bell i'r gogledd ag Arfon a Llŷn yn dod i wrando pregethu Daniel Rowland yn Llangeitho. Roedd ffynnon ar lethrau'r Mynydd tua dwy filltir o Langeitho lle byddent yn ymgynnull i gael lluniaeth, diod a gorffwys ar ôl teithio trwy'r nos dros y Mynydd. Byddent yn dod o Sir Gaernarfon bob ail fis gan hurio cychod pysgota o Aberdaron, Abersoch, Pwllheli neu Borthmadog, i Aberystwyth, gan gychwyn i'w taith ddydd Gwener. Ar y Sadwrn cerddent o Aber i Langeitho dros y Mynydd Bach a dychwelyd yr un ffordd nos Sul.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daniel Rowland, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.