Cyhoeddiad sy'n dod allan fel arfer yn rheolaidd (ynwythnosol neu'n fisol), ac sy'n cynnwys ystod o bynciau gan fwy nag un awdur yw cylchgrawn.
Mae'r gost o'i gynhyrchu fek arfer yn dod o bris y gwerthiant a'r hysbysebion, neu gan nawdd cyhoeddus.
Enghraifft o'r canlynol | type of publication, type of mass media |
---|---|
Math | cyfnodolyn, cyfrwng cyfathrebu, y cyfryngau torfol, printed matter, print-native publication |
Yn cynnwys | cover |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr cylchgrawn cyntaf i'w argraffu oedd y Erbauliche Monaths Unterredungen, a oedd yn ymwneud â llenyddiaeth ac athroniaeth ac a werthwyd yn yr Almaen yn 1663. Y cylchgrawn cyntaf a oedd yn ymwneud â diddordebau cyffredinol oedd The Gentleman's Magazine, a argraffwyd yn Llundain yn 1731 ac a olygwyd gan Edward Cave, dan y ffugenw "Sylvanus Urban", ac ef a fathodd y term Saesneg magazine.
Y cylchgrawn hynaf i gael ei gyhoeddi, sy'n para i gael ei gyhoeddi heddiw, (a hynny mewn unrhyw iaith yn y byd) ydy'r Gwyliedydd sef cylchgrawn y mudiad Wesleaidd.
Mae cylchgronau o bob math wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru ers diwedd y 18g. Un o'r cynharaf oedd Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth, chwarterolyn a gyhoeddwyd am gyfnod byr yn 1793-1794. Cofnodir y gair "cylchgrawn" ei hun am y tro cyntaf yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters, yr English-Welsh Dictionary (1770-1794).
Roedd cylchronau Cymraeg y 19g yn tueddu i fod naill ai'n ymwneud â llenyddiaeth a hynafiaethau Cymru neu'n gyhoeddiadau crefyddol enwadol. Enghraifft dda o'r cyntaf yw Y Greal. Ond roedd hyd yn oed y cylchgronau enwadol yn cynnwys pytiau o newyddion a oedd bron yr unig ffynhonnell am ddigwyddiau'r dydd i'r werin bobl am gyfnod.
Bu rhaid aros yn hir i gael deunydd tebyg i'r cylchgronau amrywiol a gyhoeddid mewn gwledydd eraill yn y Gymraeg. Yn Lloegr roedd cylchgronau dychanol fel Punch yn hynod poblogaidd, er enghraifft, ac er y cafwyd fersiwn Cymraeg ni pharhaodd am hir.
I gryn raddau, llenyddiaeth sy'n dominyddu hanes y cylchgrawn yn yr 20g yng Nghymru. Gellid nodi Y Llenor a Taliesin. Digideiddiwyd llawer o gylchgronau Cymraeg a Chymreig gan y Llyfrgell Genedlaethol mewn prosiect a elwir yn Cylchgronau Cymru Ar-lein.
Cylchgrawn | Lleiafswm Gwerthiant | Rhifynnau mewn blwyddyn | Grant Blynyddol (£) | Cyfanswm y copiau a werthir mewn blwyddyn | Grant y copi a brynnir (£) |
---|---|---|---|---|---|
Y Cymro | 2,500 | 52 | £18,000 | 130,000 | £0.07 |
Barn | 1,000 | 10 | £80,000 | 10,000 | £8.00 |
Golwg | 2,500 | 50 | £73,000 | 125,000 | £0.60 |
Barddas | 500 | 4 | £24,000 | 2,000 | £12.00 |
Cristion | 1,000 | 6 | £4,8000 | 6,000 | £0.80 |
Gair y Dydd | 500 | 4 | £2,400 | 2,000 | £1.20 |
Taliesin | 500 | 3 | £28,500 | 1,500 | £19.00 |
Yn 2016 dosbarthwyd tua 29 o gylchgronau o Gymru yn Gymraeg ac yn Saesneg (am Gymru) i'r siopau trwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau. Mae rhain yn cynnwys: Barddas, Barn, Bore Da, Cambria, Cip, Cristion, Cylchgrawn Efengylaidd, Cymru a'r Môr, Fferm a Thyddyn, Gair y Dydd, Iaw, Lingo Newydd, Lol, Llafar Gwlad, Natur Cymru / The Nature of Wales, Y Naturiaethwr, New Welsh Reader (NWR), Ninnau, Planet, Poetry Wales, WCW, Welsh Country, Welsh Football, Welsh History Review, Y Casglwr, Y Faner Newydd, Y Gwyliedydd, Y Traethodydd, Y Wawr a'r Enfys.
Mae papurau wythnosol a gyhoeddir gan yr enwadau crefyddol hefyd i'w cael a darperir gwasanaeth newyddion ar-lein Cymraeg Cymru Fyw gan y BBC a Golwg 360 gan gwmni Golwg Newydd Cyf.
Daeth Taliesin i ben yng ngwanwyn 2016 a disgwylir rhifyn cyntaf cylchgrawn llenyddol newydd o'r enw O'r Pedwar Gwynt ym mis Awst 2016 dan olygyddiaeth Sioned Puw Rowlands ac Owen Martell. Bydd comic newydd i blant hŷn hefyd yn ymddangos ym mis Mai 2016 wedi ei greu gan y cartwnydd Huw Aaron ac yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.
Yn 2016 cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau Cymraeg y bydd y cylchgronau canlynol yn derbyn nawdd am y cyfnod 2016-1, tra pery nawdd Llwodraeth Cymru:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cylchgrawn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.