Cylchgrawn Cymraeg materion cyfoes yw Barn, a sefydlwyd yn 1962.
Mae'n fisolyn sydd wedi rhedeg i dros 500 rhifyn hyd yn hyn. Emlyn Evans oedd y golygydd cyntaf ac fe'i cyhoeddid gan Lyfrau'r Dryw, Llandybïe (ac Abertawe yn ddiweddarach). Ei olygyddion presennol ydy Vaughan Hughes a Menna Baines. Mae'r dylunydd o Gaerdydd Andy Dark a Steve John, Gwasg Dinefwr, Llandybïe hefyd yn aelodau allweddol o'r tîm cynhyrchu.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | Robert Rhys |
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1962 |
Gwefan | http://barn.cymru |
Mae gan y cylchgrawn le amlwg yn hanes yr iaith Gymraeg a'r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru yn ail hanner yr 20g. yn arbennig dan olygyddiaeth Alwyn D. Rees. Adlewyrchai ei gynnwys a'i safbwynt golygyddol ymdrechion Cymdeithas yr Iaith i sicrhau Deddf iaith newydd, y twf yng nghefnogaeth Plaid Cymru, yr ymgyrch llosgi tai haf a materion eraill. Bu Prys Morgan yn ddirprwy olygydd y Barn o 1966 hyd 1973.
Nid safbwyntiau cenedlaetholgar yn unig sy'n cael eu mynegi yn y cylchgrawn, a rhoddir llwyfan i wahanol safbwyntiau. Mae materion Prydeinig a rhyngwladol yn cael eu trafod hefyd, ac yn y blynyddoedd diweddar mae pynciau amrywiol megis celf, teithio, ffilm a cherddoriaeth yn cael lle yn y cylchgrawn. Mae gan y cylchgrawn nifer o golofnwyr sefydlog, ac mae sylwebaeth fisol Richard Wyn Jones ar y byd gwleidyddol Cymreig yn rhan allweddol o'r cylchgrawn ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyn hynny.
Lleolir swyddfa weinyddol Barn yng Nghaerfyrddin. Mae gwefan y cylchgrawn www.barn.cymru yn cyhoeddi pob rhifyn yn llawn ar y wefan i danysgrifwyr ac yn cynnal archif o ôl-rifynnau.
Mae Barn yn derbyn cymhorthdal gan Gyngor Llyfrau Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Barn (cylchgrawn), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.