Cyhoeddiad sy'n ymddangos ar ffurf argraffiad newydd yn gyson ar ben rhyw amser penodol yw cyfnodolyn, cylchgyhoeddiad, cyhoeddiad cyfnodol, cyhoeddiad cylchol, llenyddiaeth gyfnodol neu lenoriaeth gyfnodol.
Mae papurau newydd, cylchgronau, cyfnodolion academaidd, cyfnodolion llenyddol, a blwyddlyfrau i gyd yn enghreifftiau o gyfnodolion.
Yn ôl y diffiniad modern gan UNESCO: "Ystyrir cyhoeddiad yn gyfnodolyn os yw'n cynnwys un rhifyn mewn cyfres barhaol o dan yr un teitl, a gyhoeddir o dro i dro yn gyson neu'n anghyson, dros gyfnod amhendant, a rhifir rhifynnau unigol y gyfres yn olynol neu'n dwyn dyddiad."
Mae nifer o gyfnodolion a gyhoeddir mwy nag unwaith y flwyddyn yn defnyddio'r system "Cyfrol, Rhifyn" o rifo'r argraffiadau: mae cyfrol yn cyfeirio at y nifer o flynyddoedd a gyhoeddir y cyfnodolyn, a'r rhifyn yn cyfeirio at faint o weithiau fe'i gyhoeddir yn ystod y flwyddyn honno.
Y Tatler (1709–11) a'r Spectator (1711–14) oedd y cyfnodolion cyntaf yng Ngwledydd Prydain. Erbyn yr 20g cyhoeddwyd nifer fawr o gyfnodolion wythnosol a misol, a gellir eu rhannu yn gyffredinol yn ddau prif fath: cylchgronau ar bynciau o ddiddordeb i'r cyhoedd a werthir mewn siopau papurau newydd, archfarchnadoedd, siopau llyfrau a stondinau llyfrau; a chyfnodolion a gyhoeddir gan gymdeithasau, clybiau, prifysgolion, a sefydliadau llywodraethol i danysgrifwyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfnodolyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.