Griffith Jones (1683 – 8 Ebrill 1761), a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror, oedd sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.
O fewn 25 mlynedd gwelwyd agor 3,495 o ysgolion a dysgodd 158,000 sut i ddarllen.
Griffith Jones, Llanddowror | |
---|---|
Ganwyd | 1684 |
Bu farw | 8 Ebrill 1761 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, addysgwr |
Roedd yn frodor o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a'i ordeinio ym 1708. Ym 1716 cafodd reithoriaeth ym mhentref Llanddowror. Bu'n aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.
Ym 1731 dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen i ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i'w mynychu. Dysgai'r ysgolion blant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r Beibl Cymraeg a thrwy adrodd Catecism Eglwys Loegr. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan Bridget Bevan, merch y dyngarwr, John Vaughan (1633-1772), a'i chysylltiadau ariannog yn Llundain a Chaerfaddon. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, Welsh Piety; ynddynt byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian. Erbyn iddo farw roedd 3,495 o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1,600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf llythrennog y byd.
Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng Nghymru cyn hynny ers diddymu'r mynachlogydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Griffith Jones, Llanddowror, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.