Ysgol sy'n darparu addysg grefyddol i blant (ac oedolion hefyd, yn hanesyddol) ac sy'n rhan o eglwys Gristnogol yw ysgol Sul.
Mae'n debyg taw Robert Raikes a drefnodd yr ysgol Sul gyntaf, yng Nghaerloyw ym 1780. Ei nod oedd i ddarparu addysg elfennol yn ogystal ag addysg grefyddol i blant a weithiodd mewn ffatrïoedd ar bob diwrnod arall yr wythnos. Ymledodd y syniad ar draws Prydain, ac yn hwyrach yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd Undeb Ysgol Sul Llundain ym 1803 a'r Undeb Ysgol Sul Americanaidd ym 1817. Roedd y mudiad ysgol Sul yn elfen o eglwysi Protestannaidd yn bennaf.
Yng Nghymru sefydlwyd mudiad yr Ysgolion Sul yn negawd olaf y 18g gyda'r bwriad o ddarparu addysg grefyddol ar gyfer y werin, yn blant ac oedolion. Ystyrir yr ysgolion Sul Cymreig fel parhad o fudiad addysg arloeswyr cynnar fel Griffith Jones, Llanddowror. Tyfodd y mudiad yn gyflym ar ddechrau'r 19g dan arweiniad Thomas Charles o'r Bala gan ymledu o eglwysi'r Methodistiaid i'r Bedyddwyr ac eraill. Un o effeithiau pwysicaf yr Ysgol Sul yng Nghymru oedd lledaenu llythrenedd, sef y gallu i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg a hynny mewn cyfnod pan waharddwyd y Gymraeg yn ysgolion y wlad. Un o ganlyniadau hynny oedd twf y wasg Gymraeg yn y 19g ac adfywiad mewn llenyddiaeth Gymraeg a arweiniodd yn y pendraw at dwf Radicaliaeth wleidyddol wrth i'r werin ddeffro. Roedd y mudiad yn ei anterth yn y cyfnod 1870-1920.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Sul, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.