Dysgeidiaeth ac athrawiaeth a rennir gan grŵp o enwadau Cristnogol Protestannaidd sydd â chysylltiadau hanesyddol rhyngddynt yw Methodistiaeth.
Gellir olrhain hanes Methodistiaeth i'w darddiad yn athrawiaeth efengylaidd John Wesley. Dechreuodd yn yr 18g ym Mhrydain trwy weithredau cenhadol egnïol, a lledaenodd i sawl rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, yr Unol Daleithiau, a'r tu hwnt.
Yng Nghymru dechreuodd y Methodistiaid ymledu ar draws y wlad ganol y 18g, o'u gwreiddiau yn y de-orllewin a Brycheiniog, diolch yn bennaf i waith cenhadol Howel Harris a'i gylch.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Methodistiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.