Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a elwir hefyd y Methodistiaid Calfinaidd neu'r Trefnyddion Calfinaidd, yn enwad anghydffurfiol Cymreig.
Datblygodd yr enwad allan o'r Diwygiad Methodistaidd yn y 18g dan arweiniad Howel Harris, Daniel Rowland a William Williams, Pantycelyn, ac yn ddiweddarach Thomas Charles. Yn y cyfnod yma roedd yn fudiad o fewn yr eglwys Anglicanaidd, a dim ond yn 1811 y dechreuodd ordeinio gweinidogion ei hun. Cwblhawyd y broses o ymwahanu pan gyhoeddodd Gyffes Ffydd yn 1823. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g, dan arweiniad gwŷr fel Thomas Jones (Dinbych) (1756 - 1820), John Elias (1774 - 1841) a John Jones, Talysarn, i fod y mwyaf o enwadau anghydffurfiol Cymru. Roedd yn wahanol i'r enwad arall anghydffurfiol a arddelai'r enw 'Methodistiaid', sef y Methodistiaid Wesleaidd a ddilynai John Wesley yn Lloegr ac a ymledodd yng Nghymru yn ddiweddarach. Calfiniaieth a arddelai'r Methodistiaid yng Nghymru a Chalfinaidd oedd diwynyddiaeth yr enwad o'r dechrau. Bu tŵf pellach yn dilyn Diwygiad 1904-1905, dan arweiniad Evan Roberts, ond ers hynny mae nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol.
Ar 31 Rhagfyr 2005 roedd gan yr enwad 33,363 o aelodau gyda 69 o weinidogion llawn amser ac 20 o weinidogion rhan amser. Llywydd presennol y Gymanfa Gyffredinol (2012-13) yw'r Parch Dafydd Andrew Jones, Caerdydd. Yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw'r Parch. Meirion Morris.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eglwys Bresbyteraidd Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.