Cynhanes Cymru

Mae cynhanes Cymru'n ymestyn o wawr Hen Oes y Cerrig i Oes yr Haearn a dyfodiad y Rhufeiniaid i'r wlad.

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Roedd yr hinsawdd yn yr adeg yma'n gyfnewidiol, fel a fu erioed. Oherwydd hyn, roedd y planhigion a'r ffawna hefyd yn newid a gallwn ddyfalu'r tymheredd ar unrhyw adeg yn ôl y planhigion a'r ffawna a oedd i'w gael ar yr adeg honno. Yn ystod y cyfnodau rhewlifol ymdebygai'r wlad i'r Arctig, gyda lefel y môr oddeutu 200 metr yn is nag y mae heddiw. Golyga hyn fod tir yn cysylltu'r ynys gydag Ewrop ac roedd Bae Ceredigion ac i'r gogledd o Landudno yn dir isel. Yn ystod y cyfnodau cynnes (rhwng y rhewlifau) roedd Prydain yn ynys yn llawn o blanhigion a choed ac anifeiliaid hinsawdd cynnes.

Ceir tystiolaeth o dri math o fodau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):

  1. Neanderthals cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy - 225,000 CP
  2. Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin - 50,000 CP
  3. Bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr - 26,000 CP

Hen Oes y Cerrig

Ni fu ynys Prydain erioed yn gyfan gwbwl dan rew: gorchuddiwyd y rhan fwyaf gan rewlifoedd sydd dros y blynyddoedd wedi dinistrio tystiolaeth bwysig o bobl - ond mae stribed cul o dir lle na chafwyd rhewlifau'n ymestyn rhwng Afon Hafren i Afon Trent.

Cynhanes Cymru 
Ogof Bontnewydd lle cafwyd hyd i esgyrn dynol o'r cyfnod rhwng 230,000 a 180,000 C.P.

Gwyddom i sicrwydd fod pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop a cheir tystiolaeth fod sawl grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar â 200,000-100,000 CP. Yn Ogof Bontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r 20 darn asgwrn yma'n hynod o bwysig ac yn gofnod o o leiaf 6 unigolyn.

Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a'u preswylwyr paleolithig gan fod y rhewlifau wedi dileu yr olion eraill. Daw'r darganfyddiadau cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw ag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc).

Cynhanes Cymru 
Mamoth

Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CP. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibynadwy am baentio ar furiau ogofâu.

Yn Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno cafwyd hyd i offer wedi'u gwneud gan ddyn a oedd yn byw yn Nyffryn Clwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl gan gynnwys asgwrn a charreg wedi'i siapio'n ofalus. Ceir safleoedd cyffelyb yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin (25,000 C.P.) ac Ogof y Lyncs yn Eryrys ble ceir gweddillion merch deg oed o 11,000 C.P.

Ni cheir unrhyw olion o ddyn yng Nghymru rhwng 21,000 a 13,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n bosib nad oedd pobl yma. Ceir olion claddu yn Ogof Kendrick ym Mhen y Gogarth, fodd bynnag, sydd wedi'i ddyddio i tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl.

Oes Ganol y Cerrig

Cynhanes Cymru 
Meicrolith

Fel yn achos gweddill gogledd-orllewin Ewrop, roedd Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig, o tua 9000 CC hyd tua 4000 CC, yn gyfnod sy'n gorwedd rhwng diwedd yr olaf o Oesoedd yr Iâ yn Ewrop a dechrau amaethyddiaeth. Dyma'r cyfnod pan ffurfiwyd Cymru i'w siâp presennol. Roedd pobl yn dal i fyw mewn grwpiau bychain, yn hela anifeiliaid gwyllt a hel bwydydd y môr, cnau a llysiau er mwyn cynnal eu hunain. Nodweddir eu diwylliant, sy'n perthyn i ddiwylliant Maglemosiaidd y cyfandir, gan yr arfer o wneud microlithiau (offer carreg bychain) a fyddai fel rheol yn cael eu gosod mewn handlau pren neu asgwrn neu ymhen gwaywffyn. Y ci oedd yr unig anifail domestig.

Yn y cyfnod hwn, roedd yr hinsawdd yn gwella'n araf a'r tymheredd yn codi. Byddai'r amgylchedd yn adlewyrchu hyn. Tyfai coedwigoedd a diflannodd y mamothiaid olaf. Daeth pobl drosodd o'r cyfandir fesul dipyn, gan groesi'r pont tir rhwng Prydain ac Ewrop lle ceir Môr Udd heddiw. Roedd yr arfordir yn uwch nag y mae heddiw ac yn cynnig safleoedd deniadol i bobl. Bu rhywfaint o ymsefydlu yn y bryniau hefyd ac roedd bywyd ger yr arfordir yn haws. Defnyddiai pobl eu hoffer microlith - a oedd ymhell o fod yn gyntefig - i hela anifeiliaid a physgod.

Ychydig iawn o olion pobl y cyfnod sydd wedi goroesi. Roedd eu trigfannau'n gysgodfeydd ac adeiladau pren ysgafn yn ôl pob tebyg, a byddent yn mudo'n aml i ddilyn preiddiau anifeiliaid neu hel bwydydd y môr yn ôl y tymor. Fel rheol dim ond drylliau bychain o gallestr wedi'u gwasgaru ar y llawr sydd i'w cael ond ceir olion mwy sylweddol mewn ambell ogof, e.e. Ogof Nana ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Nid yw'n amhosibl fod rhai o'r traddodiadau a geir yn llên gwerin Cymru yn dyddio o'r cyfnod hwn, yn arbennig y chwedlau am diroedd a foddwyd, fel Cantre'r Gwaelod.

Oes Newydd y Cerrig

Nodweddir y cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC, pan mae canlyniadau dadansoddiad paill yn awgrymu fod rhywfaint o glirio'r fforestydd wedi dechrau, proses a gyflymodd yn ystod y cyfnod.

Un o brif nodweddion y cyfnod yma yng Nghymru oedd adeiladu siambrau claddu. Mae'r domen o gerrig neu bridd oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi diflannu, gan adael y meini mawr oedd yn ffurfio'r siambr ei hun, y cromlechi. Ceir tri prif fath o siambrau claddu yng Nghymru, y Beddrodau Hafren-Cotswold , yn bennaf yn y de-ddwyrain, y Beddau Porth, yn bennaf o gwmpas yr arfordir gorllewinol, a'r Beddau Cyntedd, sy'n arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn ac sy'n debyg iawn i rai o siambrau claddu Neolithig enwog Iwerddon. Mae yna lawer o dystiolaeth o gysylltiad diwylliannol clos rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyfnod Neolithig cynnar.

Mae olion aneddiadau yn brinnach, ond mae nifer gynyddol wedi eu darganfod yn y cyfnod diweddar. Yr enwocaf yw tai Clegyr Boia ger Tyddewi a'r tŷ yn Llandygai ger Bangor. Roedd nifer o "ffatrïoedd" yng Nghymru yn cynhyrchu bwyeill cerrig. Y mwyaf o'r rhain oedd Graig Lwyd ger Penmaenmawr; mae cynnyrch Graig Lwyd wedi ei ddarganfod cyn belled a Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr.

Oes yr Efydd

Cynhanes Cymru 
Clogyn yr Wyddgrug, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Dechreuodd Oes yr Efydd yng Nghymru tua 2500 CC., pan ymddangosodd eitemau metel am y tro cyntaf; copr yn gyntaf, yna efydd, sy'n gymysgedd o gopr ac ychydig o dun, llawer caletach na chopr ar ei ben ei hun. Y gred draddodiadol oedd fod pobl wahanol wedi mewnfudo, gan ddwyn y dechnoleg newydd gyda hwy a disodli'r trigolion blaenorol. Erbyn hyn, nid yw'r rhan fwyaf o archaeolegwyr yn credu fod hyn wedi digwydd ar raddfa fawr, ond yn hytrach fod y boblogaeth gynhenid wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd. Roedd y tywydd yn gynnar yn Oes yr Efydd tua 2100-1400 CC. yn gynhesach nag yw ar hyn o bryd, ac mae llawer o weddillion sefydliadau ar dir uchel sy'n awr yn fawnog anial.

Roedd nifer o fwyngloddiau yng Nghymru yn cynhyrchu copr ar gyfer gwneud efydd, yn arbennig mwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Defnyddid y copr yma i gynhyrchu eitemau o efydd yn lleol. Enwyd arddull y rhain ar ôl y casgliad pwysicaf sydd wedi ei ddarganfod, ym Mharc Acton gerllaw Wrecsam. Datblygwyd y rhain, pennau bwyeill yn arbennig, tua diwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd, ac maent yn nodweddiadol o ran eu harddull. Cawsant eu hallforio cyn belled a Llydaw a'r Almaen.

Gwelir gwahaniaeth yn arferion claddu yn Oes yr Efydd o'i gymharu a'r cyfnod Neolithig o'i flaen. Yn hytrach na chladdfeydd cymunedol mewn siambrau claddu, mae'r cyrff, neu'r gweddillion ar ôl amlosgi, yn cael eu claddu yn unigol mewn tomenni crynion gyda rhywfaint o grochenwaith neu eitemau eraill. Y patrwm cyffredin yng Nghymru erbyn tua 2000 CC. yw nifer o gladdedigaethol unigol mewn un domen; er enghraifft Bedd Branwen ar Ynys Môn. Un o'r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol o Gymru yw'r clogyn aur a ddarganfuwyd mewn beddrod o'r enw Bryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug. Mae hwn yn dyddio o tua 1900-1600 CC., yn pwyso 560 gram ac wedi ei wneud o un darn o aur. Ychydig iawn o arfau sydd wedi eu darganfod mewn beddau yng Nghymru, ac nid oes arwydd fod amddiffynfeydd yn gwarchod sefydliadu o'r cyfnod, sy'n awgrymu cymdeithas heddychlon.

O tua 1250 CC. dirywiodd y tywydd, a daeth hyn yn amlycach o tua 1000 CC., gyda mwy o law a hafau oerach. Cynyddodd y broses o ffurfio mawn, ac mae'n debyg i lawer o sefydliadau ar yr ucheldiroedd gael eu gadael. Awgryma rhai ysgolheigion fod hyn wedi arwain at ymryson am dir, ac ymddangosiad y bryngaerau cyntaf tua 800 CC..

Tua diwedd Oes yr Efydd daw arfau yn fwy cyffredin. Ymddengys fod llawer o'r rhain wedi eu gwneud tu allan i Gymru, ond mae bwyeill a chelfi eraill o wneuthuriad lleol. Gellir gweld pedair arddull wahanol o'r celfi hyn; yn y gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin. Yn ddiddorol, mae hyn yn cyfateb yn fras i diriogaethau'r gwahanol lwythau a gofnodir yn ddiweddarach yn Oes yr Haearn, yr Ordoficiaid, Deceangli, Silwriaid a'r Demetae.

Oes yr Haearn

Cynhanes Cymru 
Un o'r mynedfeydd i fryngaer Tre'r Ceiri, Gwynedd

Dechreuodd Oes yr Haearn yng Nghymru oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi haearn cyntaf i'w darganfod yng Nghymru, yn Llyn Fawr ym mhen draw Cwm Rhondda, lle roedd nifer o eitemau wedi ei talu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. Efydd oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.

Yn o nodweddion y cyfnod yma oedd adeiladu nifer fawr o fryngaerau, er enghraifft Pen Dinas ger Aberystwyth a Tre'r Ceiri ar Benrhyn Llŷn. Y fryngaer gynharaf sy'n bendant yn dyddio o Oes yr Haearn, i bob golwg, yw Castell Odo, bryngaer fechan ger Aberdaron, Llŷn, sy'n dyddio i tua 400 CC.. Ceir y bryngaerau mwyaf yn y dwyrain, gyda rhai hefyd ar diroedd is y gogledd-orllewin. Yn y de-orllewin, mae bryngaerau yn niferus iawn ond yn llawer llai, y rhan fwyaf ag arwynebedd o lai na 1.2 hectar.

Un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod oedd casgliad mawr o eitemau oedd wedi eu hoffrymu i'r duwiau yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1943 wrth baratoi tir ar gyfer adeiladu maes awyr newydd. Roedd y darganfyddiadau yn cynnwys arfau, tariannau, cerbydau a'u hoffer atodol, cadwyni ar gyfer caethweision ac eraill. Roedd llawer wedi eu torri neu eu plygu yn fwriadol. Ystyrir y rhain yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym Mhrydain o waith metel Diwylliant La Tène. Mae crochenwaith, ar y llaw arall, yn brin yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a'r rhan fwyaf ohono wedi ei fewnforio.

Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r Celtiaid, a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl.

Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain yn 48 OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y Silwriaid a'r Ordoficiaid, ond erbyn tua 79 roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r Derwyddon. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Siart

Siart gronolegol gyda chrynodeb o gynhanes Cymru.

Cyfnod CC Hinsawdd Adeiladau a threfedigaethau Delwedd Arteffactau Diwydiant Defodau a marwolaeth Coed
yn ymddangos
Hen Oes y Cerrig 225000 Oer Rhelifol Ogof Bontnewydd Cynhanes Cymru 
Ogof Bontnewydd
Bwyeill Levallois Hela Bedw, meryw, pinwydd
Hen Oes y Cerrig Canol
(Paleolythig Canol)
50,000 Oer Ogof Coygan Cynhanes Cymru  Bwyeill trionglog Pysgota
Hen Oes y Cerrig Uchaf
(Paleolythig Uwch)
29,000 Oer Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno Cynhanes Cymru 
Hen Oes y Cerrig Uchaf
Paleolythig Uwch
26,000 Oer Ogof Pen-y-Fai (Paviland) Cynhanes Cymru 
Ogof Paviland
Llafnau Casglu a hel bywyd gwyllt Claddu 'Arglwyddes Goch Pen-y-Fai'
Oes Ganol y Cerrig 10000 Cynnes a sych Nab Head
Rhuddlan
Waun Fignen Felen, Bannau Brycheiniog
Cynhanes Cymru 
Microlith
Microlithiau Ogof Kendrick
Cerrig Rhuddlan
Coed cyll, Bedw, pinwydd
Oes Newydd y Cerrig 4400 Cynnes a gwlyb Cylch cytiau caeedig Cororion
Gwernvale, Crucywel
Cynhanes Cymru  Powlenni clai
Bwyeill carreg
Ffermio
Chwareli carreg a challestr
Claddfeydd mawr Cromlechi
Beddrodau Hafren-Cotswold
Siambrau claddu: Bryn Celli Ddu, Barclodiad y Gawres, Pentre Ifan a Tinkinswood
Derw, llwyf (elm), leimwydd, ynn, gwern
Oes Newydd y Cerrig 3600 Cynnes a gwlyb Clegyr Fwya Cynhanes Cymru  Pen saethau siap deilen
Crochenwaith 'Peterborough'
Siamberi claddu
Cwrswsau
Oes Newydd y Cerrig 2900 Cynnes a sych Adeiladau bychain, crwn: Trelystan, Powys
Walton
Cynhanes Cymru  Crochenwaith rhychiog
Biceri
Bwyeill efydd
Gwayw fwyeill
Mwyngloddio efydd
Bryn Copa
Henebion cylchoedd pridd
Cylchoedd pren
Beddau unigol cynnar
Meini hirion
Oes yr Efydd Cynnar 2300 Cynnes a sych Stagbwll
Cytiau Dosabrth ll
Mwntiau llosg
Cynhanes Cymru  Llestri dal bwyd
Yrnau gyda choler (Bedd Branwen)
Efydd Gwaunyterfyn, Wrecsam
Efydd Cemaes, Penfro
Mynydd Parys
Pen y Gogarth
Carneddau cylchog
Cylch cerrig
Oes yr Efydd Canol 1400 Cynnes a sych Tai crwn pren Glanfeinion, Llandinam
Gwent Levels (Gwynllŵg)
Cynhanes Cymru  Efydd Rhuddlan a Penard (Gorllewin Morgannwg) Mwyngloddio aur Carneddi ymylfaen
Oes yr Efydd Hwyr 1100 Oer a gwlyb Copa bryniau waliog Breiddin, Dinorben Cynhanes Cymru  Efydd Carp's tongue
Crochenwaith Breiddin
Metalau Guilsfield a Wilburton
Ailgladdu mewn ambell fwnt
Llyn Fawr
Oes yr Haearn 50 – 800 Cynhesach a sychach Bryngaerau (Moel y Gaer (Rhosesmor), Moel Hiraddug, Moel y Gerddi)
Tir caeedig (Collfryn, Dan y Coed, Bryn Eryr Sudbrook
Ogof Tynant)
Cynhanes Cymru  Crochenwaith Bryniau Malvern
Gwaith metel La Tène
Crochenwaith droell wedi'u haddurno (Llanmelin)
Gwaith metal gydag enamel
Halen
Diwydiant haearn
Maeni hirion
Claddu'r corff yn hytrach na'i losgi
Offrymu mewn llynnoedd (Llyn Cerrig Bach)

Llyfryddiaeth

  • Steve Burrow (2006) Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000 - 3000 CC (Amgueddfa Cymru) ISBN 0 7200 05671
  • George Children a George Nash (1997) The anthropology of landscape: a guide to Neolithic sites in Cardiganshire, Carmarthenshire & Pembrokeshire (Logaston Press) ISBN 1-873827-99-7
  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X

Cyfeiriadau


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn

Tags:

Cynhanes Cymru Hen Oes y CerrigCynhanes Cymru Oes Ganol y CerrigCynhanes Cymru Oes Newydd y CerrigCynhanes Cymru Oes yr EfyddCynhanes Cymru Oes yr HaearnCynhanes Cymru SiartCynhanes Cymru LlyfryddiaethCynhanes Cymru CyfeiriadauCynhanes CymruBae CeredigionCymruCynhanesHen Oes y Cerrig yng NghymruLlandudnoOes yr Haearn yng NghymruPlanhigionRhufeiniaidYr Arctig

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Mamma MiaThree Jumps AheadAl AlvarezChirodini Tumi Je AmarBrandon, SuffolkAfon TeifiAyalathe AdhehamLlyn TegidThe Commitments (ffilm)Y Derwyddon (band)1185Siot dwad wynebIago fab SebedeusGwyddbwyllHarmonicaCaeredinTywysog CymruY Deyrnas UnedigDerbynnydd ar y topBydysawd (seryddiaeth)Rhif cymhlygHarri StuartLlyn CelynAmser hafGwynfor EvansEnllibPont y BorthSaesonThe Speed ManiacIAsgwrnJennifer Jones (cyflwynydd)Anna VlasovaWhatsAppOwain WilliamsTechnolegJim DriscollCantonegAngela 2XXXY (ffilm)Combe RaleighCurveAnne, brenhines Prydain FawrAaron RamseyFforwm Economaidd y BydThe Road Not TakenThe Heart of a Race ToutHeledd CynwalPornoramaYmddeoliadArctic PassageTîm pêl-droed cenedlaethol CymruY Tŷ GwynIago III, brenin yr AlbanMoscfaGweddi'r Arglwydd2005Rose of The Rio GrandeGoogleNic ParryYr Apostol PaulSense and SensibilityThe Salton SeaBretagneGorllewin RhisgaLibrary of Congress Control NumberMirain Llwyd Owen🡆 More