Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 1717 – 11 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn.
Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.
William Williams, Pantycelyn | |
---|---|
Ffugenw | Williams Pantycelyn |
Ganwyd | 11 Chwefror 1717 Llanfair-ar-y-bryn |
Bu farw | 11 Ionawr 1791 Pantycelyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, emynydd, pregethwr, gweinidog yr Efengyl |
Prif ddylanwad | Howel Harris |
Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gasgliadau o emynau, dwy gerdd hir uchelgeisiol, sef 'Golwg ar Deyrnas Crist' a 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus' ynghyd â nofer o lyfrau rhyddiaith, cyfieithiadau a marwnadau. Daethpwyd i'w adnabod wrth enw'r fferm a fu'n gartref iddo, 'Pantycelyn' ond fe'i hadnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Mae'r enw hwn yn seiliedig ar y cyfeiriad at Dafydd y salmydd yn y Beibl fel 'peraidd ganiedydd Israel'. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article William Williams, Pantycelyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.