Brenin Dafydd: Ail frenin Israel

Cymeriad yn yr Hen Destament ac ail frenin teyrnas unedig Israel oedd Dafydd (Hebraeg: דוד) (teyrnasodd tua 1010 CC – 970 CC).

Yn draddodiadol, cyfeirir ato hefyd fel Dafydd Broffwyd.

Dafydd
Brenin Dafydd: Ail frenin Israel
Manylyn o beintiad o Frenin Dafydd (1858) gan Dante Gabriel Rossetti yn Eglwys Gadeiriol Llandaf
Ganwyd1039 CC Edit this on Wikidata
Bethlehem Edit this on Wikidata
Bu farw969 CC
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
GalwedigaethBrenin
Adnabyddus amLlyfr y Salmau Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadJesse Edit this on Wikidata
MamNitzevet Edit this on Wikidata
PlantSolomon, Absalom, Chileab, Nathan, Adonijah, Amnon, Ibhar, Ithream, Shephatiah, Sobab Edit this on Wikidata

Ceir ei hanes yn nifer o lyfrau'r Hen Destament: I Samuel a II Samuel, Llyfr Cyntaf y Cronicl ac Ail Lyfr y Brenhinoedd. Ef oedd y mab ieuengaf mewn teulu mawr. Daeth i sylw trwy ladd y cawr Goliath pan oedd yr Israeliaid yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Rhoddwyd Michal, merch Saul, brenin cyntaf Israel, yn wraig iddo. Yn ddiweddarach, aeth Saul yn genfigennus o'i lwyddiant milwrol yn erbyn y Ffilistiaid, a bu raid iddo ffoi.

Daeth yn frenin pan laddwyd Saul a'i fab Jonathan, yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Am y saith mlynedd cyntaf, teyrnsai o Hebron, ond yna gwnaeth Jeriwsalem yn brifddinas iddo, wedi iddo gipio'r ddinas oddi wrth y Jebiwsiaid. Bu ganddo nifer o wragedd, a chafodd nifer o feibion ganddynt hwy a chan ordderchwragedd, yn eu plith Solomon, a'i olynodd ar yr orsedd, oedd yn fab i Bathseba, gweddw Urias.

Yn y traddodiad Cristnogol, roedd Dafydd yn gyndad i Iesu Grist. Cafodd yr enw 'Dafydd Broffwyd' yn yr Oesoedd Canol ac mae Islam yn ei ystyried fel proffwyd yn olyniaeth Moses ac yn un o ragflaenwyr pwysicaf y proffwyd Mohamed. Yn draddodiadol, dywedir mai ef oedd awdur Llyfr y Salmau. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr a cherflunwyr ar hyd y canrifoedd; yr enwocaf o'r gweithiau hyn yw Dafydd gan Michelangelo.

Gweler hefyd

Tags:

HebraegHen DestamentIsrael

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

LlinPolisi un plentynStreic y Glowyr (1984–85)MaliRyan DaviesGwlad PwylGwledydd y bydBenjamin NetanyahuWikipediaDer Da Ist Tot Und Der Beginnt Zu SterbenCelf CymruGemau Olympaidd yr Haf 2020Manon Steffan RosAlmaenegCydymaith i Gerddoriaeth CymruEmyr DanielRhyw rhefrolFfuglen ddamcaniaetholContactMaes Awyr HeathrowMark HughesPatagoniaDosbarthiad gwyddonolSiôr (sant)John William ThomasDinasCwmwl OortTARDISAserbaijanegCyfeiriad IPCwrwBethan Rhys RobertsSimon BowerRhestr CernywiaidWiciadurBirminghamBlogBBC CymruSiot dwad wynebAil Ryfel PwnigRwmanegDic JonesURLAndrea Chénier (opera)1912Lloegr NewyddMarshall ClaxtonCaerwyntClwb C3ArchdderwyddSefydliad WicifryngauY Derwyddon (band)Hanes TsieinaYr AlbanLlŷr ForwenProtonThe Witches of BreastwickEtholiadau lleol Cymru 2022Rhyfel Sbaen ac AmericaHenry RichardEmoções Sexuais De Um CavaloShowdown in Little TokyoThe Salton SeaLlanarmon Dyffryn Ceiriog🡆 More