Llyfr y Salmau (Hebraeg: תְהִלִּים Th'hilliym) yw 19eg llyfr yr Hen Destament yn y Beibl.
Ynddo ceir 150 o salmau a briodolir yn ôl traddodiad i'r brenin Dafydd, ond sy'n waith sawl awdur yn ôl ysgolheigion diweddar. Cawsant eu cyfansoddi i'w canu i gyfeilaint offerynnau cerdd yn y deml yn Jeriwsalem. Heddiw maent yn dal i gael eu defnyddio mewn gwasanaethau crefyddol gan Gristnogion ac Iddewon mewn eglwysi a synagogau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyfr y Salmau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.