Ketuvim

Un o dair rhan y Beibl Hebraeg yw'r Ketuvim (Hebraeg am ysgrifeniadau).

Casgliad o hanesion, barddoniaeth, gwirebau, llên ddoethineb, datguddiadau, a litwrgi ydyw.

Gellir rhannu ei un ar ddeg o lyfrau yn bedair adran: y llyfrau barddonol (Llyfr y Salmau, Llyfr y Diarhebion, a Llyfr Job), y Megillot, sef "sgroliau" (Cân y Caniadau, Llyfr Ruth, Llyfr Galarnad, Llyfr y Pregethwr, a Llyfr Esther), proffwydoliaeth (Llyfr Daniel), ac hanes (Llyfr Esra a Llyfr y Croniclau). Gellir hefyd ddosbarthu'r llyfrau yn weithiau hanesyddol (Croniclau ac Esra), barddoniaeth (Salmau, Galarnad, a Chân), a straeon byrion (Ruth ac Esther)—sydd i gyd yn cyfeirio'n ôl at y Tora a'r Nevi'im—yn ogystal â'r llên ddoethineb (Diarhebion, Job, a Phregethwr) a'r broffwydoliaeth neu ddatguddiad (Daniel).

Yn ôl y traddodiad Iddewig, priodolir y Salmau i'r Brenin Dafydd, a'r Gân, Diarhebion a Phregethwr i'r Brenin Solomon. Darllenir pump o lyfrau'r Ketuvim, y Megillot, gan yr Iddewon yn litwrgi adeg eu gwyliau crefyddol: y Gân yn y Pasg Iddewig, Ruth yng Ngŵyl yr Wythnosau (Shavuot), Galarnad yn Tisha B'Av, Pregethwr yn Sukkot, ac Esther yng Ngŵyl y Gyfeddach (Pwrim).

Ysgrifennwyd llyfrau'r Ketuvim dros gyfnod hir, o'r 6g CC i'r 2g CC. Ni chawsant i gyd eu derbyn yng nghanon y Beibl Hebraeg nes yr 2g OC. Mae Llyfr Esra yn cynnwys Llyfr Nehemeia, a ystyrir yn llyfr ar wahân yn y Beibl Cristnogol, sydd hefyd yn rhestru'r Croniclau yn ddau lyfr (1 a 2).

Cyfeiriadau

Tags:

GwirebHebraegLitwrgiLlên ddoethinebY Beibl Hebraeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gwilym Prichard2020auPort TalbotHafanDmitry KoldunGemau Olympaidd y Gaeaf 2022Diddymu'r mynachlogyddRule BritanniaThe Merry CircusThe Silence of the Lambs (ffilm)MacOSNoriaGeorgiaAlexandria RileyGwibdaith Hen FrânPysgota yng NghymruPwyll ap SiônSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanY rhyngrwydAmerican Dad XxxThe BirdcageAmaeth yng NghymruBudgieOmorisaJeremiah O'Donovan RossaRhestr o ganeuon a recordiwyd gan y Tebot PiwsSex TapeFfrwyth13 AwstWsbecegCasachstan1980Pussy RiotAdolf HitlerPreifateiddioArwisgiad Tywysog CymruCaerHolding HopeLliwBangladesh1945R.E.M.Maries LiedJim Parc NestAmericaFfilm bornograffigRhosllannerchrugogZulfiqar Ali BhuttoCynnyrch mewnwladol crynswthDinasSiriCarcharor rhyfelManon Steffan RosSafle Treftadaeth y BydCynanEglwys Sant Baglan, LlanfaglanGarry KasparovCefn gwlad1895Cefin RobertsDeddf yr Iaith Gymraeg 1993AristotelesEconomi CymruSaesnegBIBSYSThe Songs We SangStygianIKEA🡆 More