Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw gwireb.
Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.
Fel y diarhebion, mae gan y wireb hanes hir mewn llenyddiaeth. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y genre yma o ganu yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw Englynion y Clyweit ('Englynion y Clywaid'), casgliad o englynion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12g neu ddechrau'r 13eg, yn ôl Ifor Williams. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':
Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol; elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir sy'n cynnwys y ddwy elfen trwy ei gilydd a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol gnawd ('arferol yw'):
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwireb, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.