Dywediad byr, poblogaidd yw dihareb, sy'n mynegi gwiredd yn seiliedig ar brofiad o fywyd cyffredin.
Nid yw dihareb yn ddyfyniad o eiriau un person, yn hytrach, mae'n tarddio o draddodiad llafar fel rheol, ac yn crynhoi doethineb canrifoedd. Mae gan bob iaith a diwylliant ei diarebion unigryw ei hun er y ceir rhai diarebion sy'n "rhyngwladol" ac a geir mewn sawl iaith a diwylliant. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb.
Rhan o Lyfr Coch Hergest sy'n rhestru diarhebion Cymraeg yn y 14g, e.e. "Clywir corn cyn ei weled" | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | paroimia, ymadrodd |
Rhan o | genres bychain o fewn llên gwerin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn aml, mae dihareb yn cynnwys trosiad, er enghraifft, "Nid aur yw popeth melyn" a "Gorau cannwyll pwyll i ddyn". Ond ceir diarebion heb drosiadau hefyd, e.e. "Trech Duw na phob darogan".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dihareb, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.