Cerflun enwog gan Michelangelo yw Dafydd (Eidaleg: David), sy'n bortread delfrydol yn y dull clasurol o'r brenin Dafydd, gorchfygwr Goliath yn yr Hen Destament a brenin Israel.
Cafodd ei gerfio o farmor gan Michelangelo yn y cyfnod o 1501 i 1504. Fe'i ystyrir yn un o gampweithiau mawr byd celf ac yn un o uchafbwyntiau celf y Dadeni.
Mae'r cerflun, sy'n mesur 540 cm, yn portreadu Dafydd fel dyn ifanc athletaidd ond ymlaciedig o gymesuredd berffaith, yn gwbl noeth yn ôl yr arfer clasurol wrth bortreadu arwyr. Roedd yn arfer gan artistiaid ddangos Dafydd yn dal pen y cawr Goliath, ond dewisodd Michelangelo ei bortreadu fel ffigwr delfrydol sy'n ymgnawdoli ieuenctid gwrywaidd a chyfianwder. Cerfiodd yr artist Ddafydd ar ôl cyfnod yn Rhufain lle astudiodd gerfluniau o'r cyfnod Helenistaidd ac mae dylanwad yr arddull Groegaidd ar y gwaith yn amlwg. Ac eto ni ellir ei gamgymryd am gerflun Clasurol; mae ysbryd y Dadeni yn ei lenwi ac mae'n cychwyn pennod newydd yn hanes cerfluniaeth yn hytrach nag edrych yn ôl fel dynwarediad marw.
Cafodd Michelangelo ei gomisiynu i'w gerfio yn 1501, pan oedd yn 26 oed. Y bwriad oedd ei osod yn uchel ar un o archau eglwys gadeiriol Fflorens (Il Duomo), ond penderfynodd Tadau'r Ddinas ei osod o flaen y Palazzo Vecchio fel arwyddlun o ysbryd dinesig a brogarol Gweriniaeth Fflorens. Erbyn heddiw mae'r cerflun gwreiddiol yn cael ei gadw a'i arddangos yn amgueddfa'r Accademia yn Fflorens a cheir copi ohono o flaen y Palazzo Vecchio.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dafydd (Michelangelo), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.