Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Brymbo ( ynganiad ).
Saif ar gyrion Wrecsam a ward o'r dref honno.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,836 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,026.65 ha |
Cyfesurynnau | 53.0761°N 3.0506°W |
Cod SYG | W04000892 |
Cod OS | SJ297537 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
Mae'r gymuned yn cynnwys y ddau bentref Tanyfron a Bwlchgwyn a sawl pentrefan eraill.
Bu Melin Dur Brymbo yn gyflogwr pwysig yn yr ardal tan iddo gau yn ddiweddar a chafwyd gweithfeydd haearn a glo yno hefyd.
Ceir eglwys yn y pentref, sef Eglwys Fair (1872), a chapel Y Tabernacl Tun (Methodistiaid Saesneg). Trowyd capel gwreiddiol Y Tabernacl yn floc o fflatiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).
Yn ei lyfr Yn Ei Elfen, mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn dangos mai llygriad o'r enw Bryn-baw ydyw Brymbo. Does neb yn gwybod pam y cafodd yr enw.
Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r enw "Brynbaw" mewn dogfen a ysgrifennwyd yn 1391 (cofnodir y Seisnigiad Brynbawe), ac mae'r cofnod cynharaf o'r sillafiad cyfoes yn dyddio o 1416. Mae'n bosib mai cyfeirio mae'r enw at domen o wastraff o'r gweithfeydd mwyngloddio gerllaw. Ar y llaw arall, ceir yr enw Brymbo mewn rhannau eraill o Gymru lle nad oes gweithfeydd a mwyngloddio e.e. Brymbo ar gwr Eglwysbach, Sir Conwy. Newidiwyd yr 'n' i 'm' fel a wnaed yn yr enw 'y Bermo'.
Yn 1958 gwnaed darganfyddiad archaeolegol pwysig gan weithwyr yn tyllu clawdd, sef gweddillion dyn o Oes yr Efydd a gafodd ei lysenwi yn "Ddyn Brymbo". Tybir iddo farw tua 1600 C.C..
Tom Price (1852-1909), Prif Weinidog De Awstralia
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brymbo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.