Ystyrir Ann Griffiths (née Ann Thomas) (Ebrill 1776 – Awst 1805), o ffermdy Dolwar Fach ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Maldwyn, Powys yn brif emynyddes Cymru ac un o feirdd benywaidd pwysicaf y Gymraeg.
Ann Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | Ebrill 1776 Llanfihangel-yng-Ngwynfa |
Bu farw | Awst 1805 o anhwylder ôl-esgorol Llanfihangel-yng-Ngwynfa |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | emynydd, bardd, ysgrifennwr |
Ganwyd Ann Thomas mewn ffermdy o'r enw Dolwar Fach ym mhlwyf Llanfihangel-yng-ngwynfa, Sir Drefaldwyn, y pedwerydd o bum plentyn Siôn Ifan Tomos (1736-1802), ffermwr tenant, a'i wraig, Jane, née Theodore (1744 -1794) Cafodd ei bedyddio yn eglwys blwyf Llanfihangel-yng-ngwynfa ar 21 Ebrill 1776
Derbyniodd Ann rywfaint o addysg ffurfiol, er ei fod yn brin, ond mwy na chafodd y mwyafrif o ferched o'i statws, yn ei chyfnod. Cafodd ei hyfforddi gan wraig o'r enw Mrs Ann Owen yn Llanfihangel cyn symud ymlaen i ysgol a gadwyd gan giwrad y plwyf, Ezeciel Hamer, lle dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a siarad Saesneg elfennol.
Roedd ei thad yn aelod cefnogol o Eglwys ei blwyf, fe wasanaethodd fel un o'i wardeniaid ar sawl achlysur. Roedd ei chartref yn un diwylliedig a chrefyddol, gyda darnau o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael eu darllen yn ddyddiol. Roedd ei thad hefyd yn dipyn o fardd gwlad a oedd yn ysgrifennu englynion bedydd, priodas ac angladd.
Roedd brodyr hŷn Ann, John ac Edward, eisoes wedi cael tröedigaeth i'r achos Methodistaidd ond roedd Ann wrthwynebus i grefydd newydd Methodistaidd ei brodyr. Roedd Ann yn mwynhau arferion yr oes, - y nosweithiau llawen, y ddawns, a'r anterliwtiau. Byddai'n arfer gwawdio'r pererinion Methodistaidd oedd yn pasio trwy gymdogaeth Dolwar ar eu ffordd i'r Bala, i'r cymanfaoedd a'r gwasanaethau cymun mawr.
Ar 28 Mawrth 1796, dydd mabsant Sant Myllin, roedd Ann ar ei ffordd i ddawns yn Llanfyllin. Ar y ffordd gwelodd ferch a fu'n arfer gweithio yn Nolwar Fach. Roedd y ferch am fynd i wrando ar bregeth gan un o bregethwr amlwg yr Annibynwyr, Benjamin Jones, Pwllheli. Cytunodd Ann i fynd i wrando arno. Cafodd y bregeth effaith fawr arni a bu am fisoedd mewn gwewyr meddw wrth bendroni dros neges y bregeth. Ar fore'r Nadolig 1797 aeth Ann i wasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanfihangel, ac wedi cyrraedd yn rhy gynnar cyfarfu a chiwrad yr eglwys a chael gwahoddiad i'w dŷ i ddisgwyl dechrau'r oedfa. Yn y tŷ fe wnaeth y ciwrad sylwadau anweddus a phenderfynodd Ann droi ei chefn ar yr Eglwys. Aeth i wrando ar bregethwyr y Methodistiaid a'r diwedd fu iddi ymuno a'i brodyr yn seiat y Methodistiaid ym Mhontrobert .
Ym 1801 derbyniwyd Thomas Griffiths yn aelod o’r seiat Fethodistaidd yn ei gartref yn y Cefn-du, Cegidfa a cafodd ei ethol yn flaenor yn fuan wedyn. Symudodd Griffiths i fferm y Ceunant, Meifod ym 1804, ac yn ôl ei arfer yn ei hen gartref dechreuodd gynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref newydd. Bu Ann yn mynychu oedfaon y Ceunant. Priododd Ann a Thomas Griffiths yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym mis Hydref 1804. Ar 13 Gorffennaf 1805 ganwyd Elizabeth, merch Thomas ac Ann ond bu farw cyn pen y mis. Pythefnos ar ôl marwolaeth ei babi bu farw Ann hefyd o anhwylder ôl-esgorol yn 29 mlwydd oed. Claddwyd Elizabeth ac Ann Griffiths ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa
Cyn ei thröedigaeth bu Ann yn cyfansoddi rhigymau a byddai'n eu hadrodd i'w hun a'i chyfeillion er mwyn diddanwch. Wedi ei thröedigaeth dechreuodd Ann gyfansoddi cerddi crefyddol yn lle'r rhigymau ac eto yn eu hadrodd wrth fynd o amgylch ei dyletswyddau ar y fferm. Gwnaeth tad Ann gofnod o rai o'i cherddi crefyddol cyn iddo farw ym 1803. Mae'n debyg mae ei hemyn enwocaf yw Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd, sy'n cael ei ganu'n aml ar y dôn Cwm Rhondda.
|
Roedd morwyn o'r enw Ruth Evans yn gweithio yn Nolwar Fach ac fe gadwodd hi nifer o gerddi crefyddol Ann ar ei chof, wedi clywed ei meistres yn eu hadrodd. Priododd Ruth Evans bregethwr Methodistaidd o'r enw John Hughes, ac wedi marwolaeth Ann fe wnaeth John Hughes gofnod o'r cerddi roedd ei wraig yn eu cofio. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Hughes a thad Ann wedi eu cofnodi mewn cyfrol o'r enw Casgliad o Hymnau a daeth yn gyfrol boblogaidd iawn. Mae nifer o emynau Ann yn cael eu canu yn gynulleidfaol o hyd gyda 14 ohonynt yn ymddangos yn Caneuon Ffydd, y gyfrol gyd-enwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ann Griffiths, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.