Tlodi yw'r cyflwr pan fo unigolyn neu gymuned yn cael ei amddifadu o'r hyn a ystyrir yn hanfodol er mwyn mwynhau y safon byw isaf sy'n dderbyniol i gymdeithas a'r bodlonrwydd sy'n dod gyda hynny.
Mae diffinio 'tlodi' yn anodd, ac yn amrywio o wlad i wlad, ond cytunir yn gyffredinol fod hanfodion bywyd yn cynnwys adnoddau elfennol fel cael digonedd o fwyd, dŵr sy'n ddiogel i'w yfed, a chysgod rhag yr elfennau; at hyn gellid ychwanegu adnoddau cymdeithasol fel mynediad at wybodaeth, addysg, gofal iechyd, statws cymdeithasol, llais mewn gwleidyddiaeth, a'r cyfle i gyfathrebu'n ystyrlon â phobl eraill a chwarae rhan mewn cymdeithas.
Gellid diffinio 'tlodi' mewn termau cymhariaethol yn ogystal, e.e. gwahaniaeth mewn incwm neu gyfoeth, ac mae cyflwr tlodi yn cael ei gysylltu â phethau fel diffyg dosraniad adnoddau a grym. Yn aml mae gwahanol wladwriaethau a chyrff yn defnyddio eu mynegeion penodol eu hunain i ddiffinio'r ffin rhwng tlodi a safon byw derbyniol.
Gall tlodi cael ei weld yn nhermau tlodion fel grŵp, ac yn yr ystyr yma mae sawl cenedl yn cael ei hystyried yn "dlawd": term mwy niwtral a derbyniol heddiw yw "gwledydd sy'n datblygu". Er bod tlodi ar ei waethaf a'i amlycaf i'w gael yn y byd sy'n datblygu, neu'r "trydydd fyd", ceir rhywfaint o dlodi ymhob gwlad a rhanbarth o'r byd bron. Yn ngwledydd datblygedig y Gorllewin mae hyn yn cynnwys grwpiau difreintiedig fel pobl ddigartref a getos.
Mewn termau crefyddol mae 'tlodi' yn aml wedi bod yn llw crefyddol, yn gyflwr a dderbynnir yn wirfoddol, e.e. gan fynachod.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tlodi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.