Ymgyrch yn 80degau'r ugeinfed ganrif yn tanlinellu problemau tai lleol a'r problemau a achoswyd gan dai haf yng Nghymru, yn enwedig yn y Fro Gymraeg, oedd yr ymgyrch llosgi tai haf.
Drwy'r wythdegau a dechrau'r nawdegau fe losgwyd neu ddifrodwyd dros 200 o dai gwyliau ac fe ymosodwyd ar swyddfeydd asiantwyr gwerthu tai yng Nghymru a Lloegr. Meibion Glyndŵr hawliodd gyfrifoldeb am y mwyafrif llethol o'r digwyddiadau hyn, ond mae pwy oedd y mudiad hwn yn dal i fod yn ddirgelwch.
Enghraifft o'r canlynol | ymgyrch |
---|---|
Daeth i ben | 1994 |
Cysylltir gyda | Meibion Glyndŵr |
Dechrau/Sefydlu | 12 Rhagfyr 1979 |
Gwladwriaeth | Cymru |
Llosgwyd dros dau gant o dai haf, swyddfeydd gwerthu tai, ceir a chychod i gyd dros y cyfnod, o Ben Llŷn i Sir Benfro ac o Sir Fôn i Glwyd. Targedwyd hefyd fusnesau Seisnig yng Nghymru. Ar 12 Rhagfyr 1979 llosgwyd pedwar tŷ haf ac erbyn diwedd y mis roedd wyth wedi eu llosgi. Dyma oedd dechrau'r ymgyrch.
Un mudiad a hawliodd gyfrifoldeb oedd Meibion Glyndŵr. Roedd y cyfryngau yn derbyn llythyron oddi wrth "Rhys Gethin" yn hawlio cyfrifoldeb am y gweithrediadau ar ran y Meibion.
Methiant fu ymdrechion yr heddlu i ddal y rhai oedd yn gyfrifol am y llosgi. Yn wir roedd yn gred gyffredinol bod llawer o gydymdeimlad gan y cyhoedd gyda'r ymgyrch ac hyd yn oed gan rai o aelodau'r heddlu cyffredin.
Ym 1981 dedfrydwyd Eurig ap Gwilym, o Ddolgellau, i ddwy flynedd o garchar, Edward Gresty i 9 mis ac Alan Besston i 15 mis am ddau ymgais aflwyddiannus i losgi tai a chafodd John Roberts 18 mis, am ddanfon llythyrau i'r BBC ym Mangor yn ffug hawlio cyfrifoldeb am yr holl ymosodiadau, roedd y pedwar yn aelodau o fudiad Cadwyr Cymru . Yn yr un flwyddyn carcharwyd John Stuart Speckman a Thomas Lappin o Ffynnongroyw am 3 blynedd yr un am gynnau tân mewn tŷ haf ger Treffynnon. Roedd y ddau'n cydymdeimlo efo’r ymgyrch llosgi ond nid oeddynt yn rhan o unrhyw fudiad.
Arestiwyd nifer o bobl eraill yn ystod yr ymgyrch. Ar Sul y Blodau, 30 Mawrth 1980, arestiwyd dros 50 o genedlaetholwyr mewn cyrch heddlu o'r enw Operation Tân ond rhyddhawyd y rhain o fewn 3 diwrnod heb gyhuddiad. Cafodd ambell i berchennog tŷ haf eu herlyn am losgi eu tai eu hunain, gan gogio eu bod wedi eu targedu gan yr ymgyrch er mwyn twyllo cwmnïau yswiriant; cafodd brawd yng nghyfraith y cyn aelod o'r FWA Glyn Rowlands, ei dal yn ceisio tanio tŷ haf er mwyn fframio Glyn.
Ar 14eg Chwefror 1990 arestiwyd y canwr a'r actor Bryn Fôn a'i bartner Anna Wynne-Williams ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig a'r ymgyrch llosgi, yn hwyrach yr un diwrnod arestiwyd yr actor Dyfed Thomas yn Llundain ar amheuaeth o fod a deunydd ffrwydrol neu ddyfeisiadau cynnau tân yn ei feddiant a chafodd yr actor Mei Jones ei wahodd i swyddfa'r heddlu i gynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliadau. Rhyddhawyd y pedwar heb eu cyhuddo o unrhyw drosedd.
Ym Mawrth 1993 dedfrydwyd Siôn Aubrey Roberts i 12 mlynedd o garchar, a hynny nid am losgi tŷ, ond am anfon ffrwydriadau drwy'r post at aelodau o'r Blaid Geidwadol, gan gynnwys Wyn Roberts yr Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd, ac at ddau aelod blaenllaw o'r tim heddlu a ymchwiliai i mewn i'r ymgyrch. Roedd Roberts yn un o dri a gyhuddwyd o gynllwynio i achosi ffrwydriadau, yn Rhagfyr 1991 a Ionawr 1992, ond fe gafwyd y ddau arall, Dewi Prysor Williams a David Gareth Davies, yn ddi-euog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llosgi tai haf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.