Actor a sgriptiwr o Gymro oedd Mei Jones (Chwefror 1953 – 5 Tachwedd 2021).
Cyd-greoedd y gyfres C'mon Midffild! gyda Alun Ffred Jones, a darlledwyd tair cyfres ar y radio cyn trosglwyddo yn llwyddiannus i deledu. Roedd perfformiad Mei fel y cymeriad hoffus Wali Thomas yn un o'r creadigaethau comedi mwyaf poblogaidd erioed yn y Gymraeg.
Mei Jones | |
---|---|
Ganwyd | Henryd Myrddin Jones Chwefror 1953 Llanddona |
Bu farw | 5 Tachwedd 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, sgriptiwr, actor llwyfan |
Magwyd Henryd Myrddin Jones ar dyddyn yn Llanddona, Ynys Môn, cyn i’r teulu symud i Lanfairpwll. Yn blentyn roedd yn bêl-droediwr talentog a chafodd ei dderbyn i garfan dan-18 Cymru tra'n dal yn ddisgybl ysgol. Bu'n chwarae i dîm Biwmares, Amlwch, Bangor ac yn gôl-geidwad i dîm Llanrug.
Aeth i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn mynychu Coleg y Brifysgol, Aberystwyth gan ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth. Yn y cyfnod yma daeth yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp Mynediad am Ddim. Bu'n chwarae i glwb pêl-droed Pontrhydfendigaid yn ystod ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth. Aeth ymlaen i gwrs drama Cymraeg yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.
Bu'n actio, sgriptio a chyfarwyddo ers 1976. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws. Ar y radio, bu’n rhan o dîm Pupur a Halen ac Wythnos i’w Anghofio, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd wyth cyfres, un ffilm a sioe lwyfan o C'mon Midffild!. Enillodd Mei ac Alun Ffred Jones wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru ar gyfer C'mon Midffild! yn 1992.
Yn ystod yr 1980au bu'n actio mewn sawl cyfres ddrama yn cynnwys Wastad ar y Tu Fas, Hufen a Moch Bach, Anturiaethau Dic Preifat ac Wyn i'r Lladdfa. Sgriptiodd y cyfresi drama Deryn a Cerddwn Ymlaen ar y cyd gyda Meic Povey.
Yn 2008 fe’i comisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw Planed Patagonia.
Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd ran.
Wedi i losgiadau tai haf ddechrau yn 1979, a'r heddlu yn rhwystredig oherwydd eu hymdrechion aflwyddiannus i ddal y rhai oedd yn gyfrifol, arestiwyd Mei Jones ynghyd â'i gyd-aelod o gast C'mon Midffild!, Bryn Fôn yn 1990. Ni ddygwyd unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn.
Bu farw yn 68 mlwydd oed wedi cyfnod o salwch. Roedd yn dad i pedwar o blant, Ela, Lois, Steffan ac Aaron.
Teitl | Blwyddyn | Rhan | Cwmni Cynhyrchu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Goglis | Dai Clust | HTV Cymru | ||
Wastad At Y Tu Fas | ||||
Hufen a Moch Bach | ||||
Anturiaethau Dic Preifat | ||||
Ŵyn i'r Lladdfa | 1984 | |||
Siwan | 1986 | Llywelyn Fawr | ||
Twll o Le | 1987 | Ffilmiau Bryngwyn | ||
C'mon Midffîld! | 1988-1994 | Wali Tomos | Ffilmiau'r Nant | 5 cyfres |
Outside Time | 1991 | Efnisien | ||
Dŵr a Thân | 1992 | Ffilmiau Bryngwyn | ||
Midffîld: Y Mwfi | 1992 | Wali Tomos | Ffilmiau'r Nant | Ffilm deledu |
Julis Caesar | 1994 | Brutus (Llais) | ||
Y Siop | 1996 | |||
Yr Heliwr | 1997 | Myrddin Greene | Pennod: Bro Dirgelion | |
Pobol y Cwm | 1997 | Charles McGurk | BBC Cymru | |
C'mon Midffîld a Rasbrijam | 2004 | Wali Tomos | Ffilmiau'r Nant |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mei Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.