Un o ganghennau deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ac un o'i saith sefydliad yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd).
Gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd, mae hi'n deddfu deddfwriaeth Ewropeaidd, yn gyffredin ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Senedd yn cynnwys 705 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau). Mae hi'n cynrychioli'r ail etholwyr mwyaf yn y byd (ar ôl Senedd India) a'r etholwyr democrataidd traws-wladol mwyaf yn y byd (375 miliwn o bleidleiswyr cymwys yn 2009)
Senedd Ewrop | |
---|---|
Nawfed Senedd Ewrop | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Sefydlwyd | 10 Medi 1952 |
Math | Tŷ weithdrefn ddeddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd |
Tymhorau | dim |
Arweinyddiaeth | |
Llywydd | David Sassoli, S&D ers 3 Gorffennaf 2019 |
Is-lywydd Cyntaf | Roberta Metsola, EPP ers 12 Tachwedd 2020 |
Is-lywyddion | 13
|
Ysgrifennydd Cyffredinol | Klaus Welle ers 15 Mawrth 2009 |
Arweinwyr y grwpiau | 10
|
Cyfansoddiad | |
Aelodau | |
Grwpiau gwleidyddol | 8
|
Pwyllgorau | 22
|
Hyd tymor | 5 Mlynedd |
Tâl | €8,932.86 (gross per month) |
Etholiadau | |
System bleidleisio | Dewiswyd gan aelod wladwriaeth, systemau gan gynnwys:
|
Etholiad diwethaf | 23–26 Mai 2019 |
Etholiad nesaf | 2024 |
Arwyddair | |
Unedig mewn amrywiaeth | |
Man cyfarfod | |
Louise Weiss: Strasbwrg, Ffrainc | |
Man cyfarfod | |
Espace Léopold: Brwsel, Gwlad Belg | |
Gwefan | |
europarl.europa.eu |
Ers 1979, etholir y Senedd yn uniongyrchol bob pum mlynedd gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd trwy bleidlais gyffredinol. Mae'r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau seneddol wedi lleihau bob tro ar ôl 1979 tan 2019, pan cynyddwyd y nifer gan 8 y cant, ac aeth yn uwch na 50% am y tro cyntaf ers 1994. 18 oed yw'r oedran pleidleisio ym mhob Aelod-wladwriaeth ac eithrio ym Malta ac Awstria, lle mae'n 16 oed, a Gwlad Groeg, lle mae'n 17 oed.
Er bod gan Senedd Ewrop bŵer deddfwriaethol, fel y mae y Cyngor, nid oes ganddi'r hawl menter – sydd yn hawl y Comisiwn Ewropeaidd – fel y rhan fwyaf o seneddau gwladol yr aelod-wladwriaethau. “Sefydliad cyntaf” yr Undeb Ewropeaidd yw hi (soniwyd yn gyntaf yn ei gytundebau a bod gan flaenoriaeth seremonïol dros sefydliadau eraill yr UE), a rhannu pwerau deddfwriaethol a chyllidebol cyfatal gyda’r Cyngor (ac eithrio ar ychydig o faterion lle gweithreda gweithdrefn deddfwriaethol arbennig). Hefyd, mae ganddi reolaeth cyfartal dros gyllid yr UE. Yn y pen draw, mae’r Comisiwn Ewropeaidd, sydd yn gwasanaethu fel cangen weithredol yr UE, yn atebol i’r Senedd. Yn enwedig, gall y Senedd benderfynu a ddylid cymeradwyo enwebai’r Cyngor Ewropeaidd ar gyfer Arlywydd y Comisiwn, ac mae hi ymhellach yn gyfrifol am gymeradwyo (neu wrthod) penodi’r Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Gall hi wedyn gorfodi’r Comisiwn cyfredol i ymddiswyddo gan deddfu cynnig cerydd.
Llywydd Senedd Ewrop yw David Sassoli (PD) etholwyd yn Ionawr 2019. Mae e’n llywyddu dros siambr aml-blaid, y pum grŵp mwyaf yw grŵp Plaid Pobl Ewrop (EPP), Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid (S&D), Renew Europe, y Gwyrddion/Cynghrair Rhydd Ewrop (Gwyrddion–EFA) ac Hunaniaeth a Democratiaeth (ID). Etholiadau 2019 oedd yr etholiadau UE-gyfan diwethaf.
Mae pencadlys y Senedd yn Strasbwrg, Ffrainc, a’i swyddfeydd gweinyddol yn Ninas Lwcsembwrg. Mae sesiynau llawn yn digwydd yn Strasbwrg yn ogystal â Brwsel, Gwlad Belg, wrth i gyfarfodydd pwyllgor y Senedd yn digwydd yn bennaf ym Mrwsel.
Dyma restr o'r grwpiau o bleidiau yn y senedd a'r nifer o seddi sydd ganddynt ar hyn o bryd (ers Mehefin 2009):
Sylwch: Nid yr un peth â'r pleidiau cenedlaethol ydyw grwpiau pleidiau Senedd Ewrop, er bod cysylltiad rhyngddyn nhw.
Gwlad | Pob. (miw.) | ASEau | Pob./MEP | Dylanwad | |
---|---|---|---|---|---|
Lwcsembwrg | 0.4 | 6 | 66667 | 12.42 | |
Malta | 0.4 | 5 | 80000 | 10.53 | |
Cyprus | 0.8 | 6 | 133333 | 6.21 | |
Estonia | 1.4 | 6 | 233333 | 3.54 | |
Slofenia | 2.0 | 7 | 285714 | 2.89 | |
Latfia | 2.4 | 9 | 266667 | 3.10 | |
Iwerddon | 3.7 | 13 | 284615 | 2.91 | |
Lithwania | 3.7 | 13 | 284615 | 2.91 | |
Y Ffindir | 5.2 | 14 | 371429 | 2.22 | |
Denmarc | 5.3 | 14 | 378571 | 2.18 | |
Slofacia | 5.4 | 14 | 385714 | 2.14 | |
Awstria | 8.1 | 18 | 450000 | 1.84 | |
Sweden | 8.9 | 19 | 468421 | 1.76 | |
Portiwgal | 9.9 | 24 | 412500 | 2.00 | |
Hwngari | 10.0 | 24 | 416667 | 1.98 | |
Gwlad Belg | 10.2 | 24 | 425000 | 1.94 | |
Y Weiriniaeth Tsiec | 10.3 | 24 | 429167 | 1.92 | |
Gwlad Groeg | 10.6 | 24 | 441667 | 1.87 | |
Yr Iseldiroedd | 15.8 | 27 | 585185 | 1.41 | |
Gwlad Pwyl | 38.6 | 54 | 714815 | 1.15 | |
Sbaen | 39.4 | 54 | 729630 | 1.13 | |
Yr Eidal | 57.7 | 78 | 739744 | 1.11 | |
Ffrainc | 59.1 | 78 | 757692 | 1.09 | |
Y Deyrnas Unedig | 59.4 | 78 | 761538 | 1.08 | |
Yr Almaen | 82.1 | 99 | 828283 | 1.00 | |
Cyfanswm | 450.8 | 732 | 615846 | 1.35 |
Mae Senedd Ewrop yn cynrychioli'r 450 miliwn o bobl sydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar hyn o bryd mae 732 o aelodau seneddol (ASE).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Senedd Ewrop, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.