Adran weithredol yr Undeb Ewropeaidd yw'r Comisiwn Ewropeaidd.
Mae José Manuel Durão Barroso yn Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ers 2004. Mae'r Comisiwn yn awgrymu a gweithredu deddfwriaeth ac mae'n hollol annibynnol. Mae wedi ei leoli ym Mrwsel.
Ar hyn o bryd mae 27 o gomisiynwyr, un o bob aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae portffolio polisi gan bob comisiynydd ac maent i gyd yn atebol i'r Senedd yn unig.
Mae Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yn dewis Llywydd y Comisiwn ac mae'n rhaid i Senedd Ewrop ei gymeradwyo. Mae'r aelod-wladwriaethau yn enwebu'r comisiynwyr eraill ac wedyn mae'n rhaid fod y Senedd yn cymeradwyo'r Comisiwn.
Gall y Senedd orfodi ymddiswyddiad y Comisiwn cyfan trwy bleidlais o ddiffyg hyder.
Y Comisiynwyr presennol yw:
Enw | Portffolio |
José Manuel Barroso | Llywydd |
Margot Wallström | Is-Lywydd; Cysylltiadau Sefydliadol a Strategaeth Cyfathrebu |
Günter Verheugen | Is-Lywydd; Menter a Diwydiant |
Jacques Barrot | Is-Lywydd; Trafnidiaeth |
Siim Kallas | Is-Lywydd; Materion Gweinyddol, Archwilio a Gwrth-dwyll |
Franco Frattini | Is-Lywydd; Cyfiawnder, Rhyddid a Diogelwch |
Viviane Reding | Cymdeithas Wybodaeth a Chyfryngau |
Stavros Dimas | Amgylchedd |
Joaquín Almunia | Materion Economaidd ac Ariannol |
Danuta Hübner | Polisi Rhanbarthol |
Joe Borg | Pysgodfeydd a Materion Morol |
Dalia Grybauskaitė | Rhaglennu Ariannol a'r Gyllideb |
Janez Potočnik | Gwyddoniaeth ac Ymchwil |
Ján Figeľ | Addysg, Hyfforddiant, Diwylliant ac Ieuenctid |
Markos Kyprianou | Iechyd |
Olli Rehn | Ehangu |
Louis Michel | Datblygu a Chymorth Dyngarol |
László Kovács | Trethiant ac Undeb Tollau |
Neelie Kroes | Cystadleuaeth |
Mariann Fischer Boel | Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig |
Benita Ferrero-Waldner | Cysylltiadau Allanol a Pholisi Cymdogaeth Ewropeaidd |
Charlie McCreevy | Marchnad Fewnol a Gwasanaethau |
Vladimír Špidla | Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal |
Peter Mandelson | Masnach |
Andris Piebalgs | Ynni |
Meglena Kuneva | Diogelu'r Defnyddiwr |
Leonard Orban | Amlieithrwydd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Comisiwn Ewropeaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.