Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad.
Mae pwy sy'n gymwys yn amrywio yn ôl gwlad, ac ni ddylid ei gymysgu gyda chyfanswm y boblogaeth sy'n oedolion, er enghraifft, mae rhai gwledydd yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, a / neu grefydd; oedran a dinasyddiaeth, fel arfer yw'r prif feini prawf o gymhwysedd. Ystyrir canran isel yn beth drwg a chanran uchel yn beth da.
Ceir gwahaniaethau enbyd rhwng gwahanol wledydd. Er enghraifft, yn yr etholiad am Arlywydd yn yr Unol Daleithiau yn 2008, pleidleisiodd 61% o'r etholaeth, sy'n ffigwr isel. Ym Malta, ar y llaw arall mae'r ganran fel arfer oddeutu 95%; yn Refferendwm yr Alban, 2014, roedd y nifer a bleidleisiodd (ar gyfartaledd) yn 84.6%, sef y nifer uchaf a gafwyd mewn unrhyw etholiad mewn unrhyw ran o wledydd Prydain erioed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.