Prifddinas Archddugiaeth Lwcsembwrg yw Dinas Lwcsembwrg (Lwcsembwrgeg: Stad Lëtzebuerg; Ffrangeg: Ville de Luxembourg, Almaeneg: Luxemburg Stadt).
Lleolir y ddinas wrth gyfaber afonydd Alzette a Pétrusse, yn Ne Lwcsembwrg, ac mae'n cynnwys Castell Lwcsembwrg, castell hanesyddol a sefydlwyd gan y Ffrancod yn gynnar yn yr Oesoedd Canol; tyfodd y ddinas o'i gwmpas.
Math | bwrdeistref Lwcsembwrg, dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 134,714 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Lydie Polfer |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Prag, Camden, Metz |
Daearyddiaeth | |
Sir | Canton Lwcsembwrg |
Gwlad | Lwcsembwrg |
Arwynebedd | 51.46 km² |
Uwch y môr | 146 metr |
Gerllaw | Alzette, Pétrusse, Zéissengerbaach, Q25584407, Drosbach |
Yn ffinio gyda | Walferdange, Steinsel, Niederanven, Sandweiler, Hesper, Roeser, Leudelange, Bertrange, Strassen, Kopstal |
Cyfesurynnau | 49.6106°N 6.1328°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor cymunedol Lwcsembwrg |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Luxembourg |
Pennaeth y Llywodraeth | Lydie Polfer |
Yn 2010, roedd poblogaeth Dinas Lwcsembwrg yn 100,000, sef tua theirgwaith mwy na'r commune' (cymuned) ail boblog yn y wlad. Y boblogaeth ddinasol, gyda communes Hesperange, Sandweiler, Strassen a Walferdange yw 103,973. Lleolir Dinas Lwcsembwrg yng nghanol Gorllewin Ewrop, 117 milltir o ddinas Brwsel, 179 milltir o Baris a 118 milltir o Cwlen.
Un o'r dinasoedd cyfoethocaf yn y byd yw Dinas Lwcsembwrg, am ei bod yn ganolfan bancio a gweinyddiaeth. Mae Dinas Lwcsembwrg wedi croesawu amryw o sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft Llys Cyfiawnder Ewrop, Llys Archwilwyr Ewropeaidd a'r Banc Buddsoddiadau Ewropeaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dinas Lwcsembwrg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.