Capel yn yr arddull Gothig yng nghanol dinas Paris yn Ffrainc yw Sainte-Chapelle.
Saif yn ardal Île de la Cité, ac fe'i hystyrir yn un o gampweithiau'r arddull Gothig.
Delwedd:Szensapel.jpg, Paris Sainte Chapelle East View 02.JPG | |
Math | capel, secularized church |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | saintes chapelles |
Sir | Saint-Germain-l'Auxerrois, Bwrdeistref 1af Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.855369°N 2.345028°E |
Rheolir gan | Centre des monuments nationaux |
Arddull pensaernïol | Rayonnant |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Sefydlwydwyd gan | Louis IX, brenin Ffrainc |
Manylion | |
Esgobaeth | Archesgobaeth Paris |
Adeiladwyd y Sainte-Chapelle i ddal y creiriau crefyddol a ddygwyd i Ffrainc o Syria gan Louis IX, brenin Ffrainc. Roedd y rhain yn cynnwys y goron ddrain a phen haearn y waywffon a ddefnyddiwyd pan groeshoeliwyd Iesu Grist. Mae'n debyg i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 1241, ac fe'i cysegrwyd yn 1248. Credir mai Pierre de Montreuil oedd yn gyfrifol am y gwaith. Yn ddiweddarach symudwyd y creiriau i Notre-Dame de Paris. Ar ôl tân 2019, fe'u symudwyd i'r Louvre.
Mae'r adeilad yn cynnwys dau gapel, y capel isaf ar gyfer y bobl gyffredin a'r capel uchaf ar gyfer y brenin a'i lys. Ystyrir gwydr lliw ffenestri'r capel uchaf ymhlith yr esiamplau gwychaf o wydr lliw eglwysig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sainte-Chapelle, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.