Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn glwb Pêl-droed, sy'n chwarae yng nghynghrair Cymru North.
Maent yn chwarae ar Ffordd Llanelian, Hen Golwyn.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Bae Colwyn | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Gwylanod | |||
Sefydlwyd | 1881 | |||
Maes | Ffordd Llanelian | |||
Cadeirydd | Neil Coverley | |||
Rheolwr | Steve Evans | |||
Cynghrair | Cymru Premier | |||
|
Chwaraeodd tîm yn cynrychioli Bae Colwyn eu gêm gyntaf yn Ionawr 1881. Ychydig a wyddir am hanes cynnar y Bae heblaw iddynt gystadlu yng Nghynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru o 1901 hyd y daeth y gystadleuaeth i ben yn 1921 pan ymunodd y rhan fwyaf o glybiau Cynghrair Cenedlaethol Cymru.
Yn 1984 penderfynodd y clwb i groesi'r ffin i chwarae yn Lloegr ac fe'i etholwyd yn aelod o Gynghrair y Bass North West Counties League.
Pan ffurfwyd Uwch Gynghrair Cymru fe ymgeisiodd y Cymdeithas Bêl-droed Cymru roi hwb i'r Gynghrair drwy orfodi fod pob Clwb Cymreig (Heblaw y tri clwb Proffesiynol) ymuno ag o. Gwrthododd Bae Colwyn, ymysg eraill, a rhaid oedd chwarae'u gemau 'cartref' yn Northwich ac Ellesmere Port. Ond ym Mis Ebrill 1995 fe enillwyd achos llys a olygodd eu bod yn cael dychwelyd i Ffordd Llanelian.
Fe gyrrhaeddodd y Clwb ail-rownd Cwpan FA Lloegr yn 1995-96 cyn colli o 2-0 yn erbyn Blackpool. Wnaethon nhw hefyd gyrraedd Rownd yr 8 olaf Tlws Lloegr yn 1996-97 cyn colli i Stevenage Borough.
Wedi 35 mlynedd yn chwarae yn Lloegr fe adawodd Bae Colwyn Adran Gyntaf y Gorllewin y Northern Premier i ymuno gyda cynghrair newydd Cymru North ar ddechrau tymor 2019-20.
Bu'r cyfnod yn ôl yng Nghymru yn llwyddiannus i'r Bae gan weld tair gwaith mwy o gefnogwyr yn mynychu'r gemau a buddsoddi yn y maes. Enillodd y Bae ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2023-24 gan cael eu dyrchafu gan C.P.D. Tref Y Barri o'r de. Yn sgîl dychwelyd i Gymru a'r llwyddiant, neu, efallai rheswm am y llwyddiant, bu i'r clwb fynd ati yn bwrpasol i Gymreigio ei hun gyda chyhoeddiadau dwyieithog ar y system sain a defnydd arall o'r Gymraeg a Chymreictod.
Position | Name |
---|---|
Rheolwr | Steve Evans |
Rheolwr Cynorthwyol | Tommy Holmes |
Hyfforddwr | Danny Holmes |
Ffisio | Seb Richardson |
Dadansoddwr | Dan Skillen |
Rheolwr Cit | John Ashley |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article C.P.D. Bae Colwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.