Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, wedi'i leoli i'r de-orllewin o Queens ar ymyl orllewinol Long Island ydy Brooklyn.
Enwyd y fwrdeistref ar ôl y dref Iseldireg Breukelen). Yn dref annibynnol tan iddi gael ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898, Brooklyn ydy bwrdeistref fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.5 miliwn o drigolion. Hyhi yw'r ail fwrdeistref fwyaf o ran arwynebedd hefyd. Ers 1896, bu gan Brooklyn yr un ffiniau a Swydd Kings, sydd yn bellach yn sir fwyaf poblog Talaith Efrog Newydd a'r ail sir gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr Unol Daleithiau ar ôl Swydd Efrog Newydd (Manhattan).
Math | bwrdeistref Dinas Efrog Newydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Breukelen |
Poblogaeth | 2,736,074 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Antonio Reynoso |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Efrog Newydd |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 251 ±1 km² |
Gerllaw | Bae Efrog Newydd Uchaf, Bae Efrog Newydd Isaf, Jamaica Bay, Afon y Dwyrain, Newtown Creek |
Yn ffinio gyda | Queens, Ynys Staten, Manhattan, Bayonne, New Jersey, Jersey City |
Cyfesurynnau | 40.6928°N 73.9903°W |
Cod post | 112 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Borough President |
Pennaeth y Llywodraeth | Antonio Reynoso |
I bob pwrpas ymarferol mae'r un endid â Kings County sy'n un o'r siroedd yn nhalaith Efrog Newydd.
Er ei fod yn rhan o Ddinas Efrog Newydd, mae gan Brooklyn ei ddiwylliant unigryw ei hun, yn ogystal â bywyd celfyddydol annibynnol a threftadaeth pensaernïol unigryw. Mae nifer o gymdogaethau Brooklyn yn lecynnau ethnig lle mae'r mwyafrif o'r trigolion yn perthyn i grŵpiau ethnig a diwylliannau penodol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brooklyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.