Cerddor cerddoriaeth draddodiadol Cymru, cynhyrchydd recordiau, ac athro yw Ceri Rhys Matthews (ganwyd 29 Mai 1960).
Fe'i gysylltir fwyaf gydag adfywiad y pibau Cymreig.
Ceri Rhys Matthews | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1960 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Arddull | canu gwerin |
Ganed Matthews ym maestref Treboeth, ger Abertawe. Addysgwyd ef mewn ysgol gynradd Ynystawe, Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, ac Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera (Bro Dur bellach), ac aeth ymlaen i astudio Celfyddyd Gain ac Arlunio yn Ysgol Gelf Abertawe a Choleg Celf Maidstone o dan Patricia Briggs, Robin Sewell, Noel White a Michael Upton.
Fel unawdydd ac aelod o’r grŵp gwerin Cymreig, Fernhill, fe’i galwyd yn “ffigwr allweddol yn y dadeni traddodiadau cerddorol Cymreig”, gan y newyddiadurwr Julian May yng nghylchgrawn Songlines a’i ddisgrifio ganddo fel “a one man Welsh music industry" Mae wedi cynhyrchu 21 crynoddisg ar gyfer is-gwmni Fflach, fflach:tradd. Yn 2000, cynhyrchodd Rough Guide to the Music of Wales ar gyfer y World Music Netowrk. Yn 2009, fe gynhyrchodd Blodeugerdd: Song of the Flowers - An Anthology of Welsh Music and Song ar gyfer y Smithsonian Folkways a ddaeth yn gyntaf yng Ngwobrau Cerddoriaeth Annibynnol 2009 ar gyfer Albwm Traddodiadol Gorau'r Byd.
Bu iddo gychwyn ac yn dysgu cerddoriaeth mewn dau brosiect hunan-ariannu hirdymor cysylltiedig; Pibau Pencader, a phrosiect Sesiynau Ioan Rhagfyr, yn Tŷ Siamas, Dolgellau. Roedd Ioan Rhagfyr (John Williams) yn gerddor o Ddolgellau (1740-1821).
Bu i Ceri Rhys Matthews wneud llawer wrth ddod â sain y pibau Cymreig neu alawon Cerddoriaeth draddodiadol Cymru ar bibau gwahanol, i sylw y cyhoedd. Ef oedd arweinydd gyntaf Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2013 pan ganodd y pibau wrth arwain yr Orymdaith drwy dref Aberystwyth gyda Dr Meredydd Evans fel tywysydd.
Mae ei weithgareddau addysgu yn cwmpasu sbectrwm eang. Mae'r rhain yn cynnwys prosiect Ysgol Iau tymor hir i wneud ffliwt yn Nolgellau, Cymru; addysgu mewn amrywiol Ysgolion Haf gan gynnwys The English Acoustic Collective Summer School, Ruskin Mill; ac ar y Penwythnosau Yscolan, Pentre Ifan.
Mae’n diwtor gwadd ar y Radd BMus mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadol ym Mhrifysgol Newcastle, a The Sage Gateshead; ac ar Radd Cerddoriaeth BMus (Anrh) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Gyda'r grŵp y Saith Rhyfeddod
Fel cerddor unigol
Gyda'r grŵp Fernhill
Fel cynhyrchydd recordiau
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ceri Rhys Matthews, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.