Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.
Mae'r ysgol wedi ei leoli ar dri campws yn Ystalyfera a Phort Talbot. Mae'r ysgol yn adnabyddus am ei llwyddiannau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, yn ogystal â'r academaidd.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur | |
---|---|
Arwyddair | Dysgu Gorau Dysgu Byw |
Sefydlwyd | 1969 Ysgol Gyfun Ystalyfera 2017 Ysgol Gymraeg Ystalyfera |
Math | Ysgol pob oed 3-18 |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Laurel Davies |
Cadeirydd | Cyng Alun Llywelyn |
Lleoliad | Glan yr Afon, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, Cymru, SA9 2JJ |
AALl | Castell-nedd Port Talbot |
Disgyblion | tua 1300 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–18 |
Llysoedd | Gwenllian, Hywel, Llywelyn |
Lliwiau | Glas a du (du ar gyfer y chweched ddosbarth) |
Gwefan | www.ysgolystalyferabrodur.cymru |
Yn Medi 2017 trawsnewidiodd yr ysgol yn ysgol pob oed drwy ymuno ag Ysgol Gynradd Gymraeg Y Wern, ac o Fehefin 2018 bydd y ddwy adran ar yr un campws ym mhentref Ystalyfera. Yn Medi 2018, bydd safle yn ne'r sir yn agor gyda disgyblion o ysgolion cynradd Cymraeg Rhosafan, Tyle'r Ynn a Chastell-nedd yn mynychu, Ysgol Gymraeg Bro Dur.
Sefydlwyd yr ysgol ym 1969, tra'n rhannu safle a staff ag Ysgol Sir Ystalyfera, a sefydlwyd yn 1896, yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Roedd dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Faesteg yn y de-ddwyrain i Benrhyn Gŵyr yn y de cyn i ysgolion Llanhari ac Ysgol Gyfun Gŵyr agor. Tan ddiwedd y 1990au, bu Ysgolion Ystalyfera a Gŵyr yn rhannu chweched dosbarth ar safle Ystalyfera. Enw'r chweched dosbarth yw 'Canolfan Gwenallt', er clod i'r prifardd D. Gwenallt Jones (1899-1968), a fynychodd yr Ysgol Sir yno.
Mae dalgylch presennol yr ysgol yn rhannu ffiniau â bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, gyda nifer o ddisbylion o Aber-crâf ac Ystradgynlais yn ne-orllewin sir Powys hefyd yn mynychu'r ysgol.
Fel ysgol benodedig Gymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg y mae'r mwyafrif o'r gwersi'n cael eu cynnal, er bod modd dilyn rhai pynciau drwy gyfrwng y Saesneg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.